
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 2) 2022.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 11 Ionawr 2022—
(a) adran 56(1) o’r Ddeddf at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adran honno, a
(b) adran 57(1) o’r Ddeddf at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd o dan yr adran honno.
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022—
(a) adran 56 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, a
(b) adran 57 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2022