
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2022 yn union ar ôl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno;
 ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000;
 ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—
(a) gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu
(b) gorchymyn gwarcheidiaeth;
 mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
 ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—
(a) os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;
(b) os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;
(c) os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;
(d) os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;
(e) os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—
(a) ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu
(b) cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8) yn gymwys.
(2) Mae unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1 wedi eu gwneud—
(a) mewn cysylltiad â P,
(b) sy’n atal P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster y mae plant yn derbyn gofal ynddo neu rhag bod yn rhan o reoli unrhyw gyfleuster o’r fath neu rhag ymwneud fel arall â darparu unrhyw gyfleuster o’r fath, neu
(c) mewn cysylltiad â phlentyn sydd wedi bod yng ngofal P.
(3) Mae gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â P o dan adran 104 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 er bod y drosedd wedi ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.
(4) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000 er bod y drosedd wedi ei diddymu.
(5) Mae P—
(a) wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu
(b) yn dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno,
er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.
(6) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd ac eithrio trosedd y cyfeirir ati ym mharagraff (4) neu (5) sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.
(7) Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir yn Atodlen 3 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath.
(8) Mae P—
(a) wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu
(b) wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath y mae uwchlys wedi gosod gorchymyn perthnasol mewn cysylltiad â hi,
er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.
(9) Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraffau (1) i (8) mewn cysylltiad ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu drosedd—
(a) os yw P wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn,
(b) os yw rhybuddiad mewn cysylltiad â’r drosedd honno wedi ei dynnu’n ôl neu ei osod o’r neilltu,
(c) os yw cyfarwyddyd sy’n seiliedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar y drosedd wedi ei ddirymu, neu
(d) os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 neu adran 79 neu 80 o’r Cod Dedfrydu sy’n rhyddhau P yn ddiamod neu’n amodol mewn cysylltiad â’r drosedd honno.
(10) Nid yw P wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd paragraff (2)—
(a) os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan Ddeddf 1989 y lleolwyd P yng ngofal awdurdod lleol dynodedig neu gorff tebyg neu o dan oruchwyliaeth awdurdod neu gorff o’r fath odano, oni bai bod gorchymyn hefyd wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am ei blentyn ei hun, neu
(b) pan fo P yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol i blentyn, a bo’r plentyn hwnnw yn cael neu wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio o dan Ddeddf 1989, oni bai bod y gorchymyn wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am y plentyn hwnnw.
(11) Nid yw P wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad â gwrthod neu ganslo unrhyw gofrestriad o dan y darpariaethau a nodir ym mharagraff 23(c) o Atodlen 1—
(a) os yw’r gwrthod neu’r canslo mewn cysylltiad â chofrestru ag asiantaeth gwarchod plant, neu
(b) os yr unig reswm dros wrthod neu ganslo’r cofrestriad oedd methu â thalu unrhyw ffi a ragnodir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—
(a) a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a
(b) a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.
(2) Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—
(a) mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),
(b) mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,
(c) mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu
(d) mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.
(3) Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.
(4) Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.
5 
Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (rhestr o’r rheini y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y rheoliad hwn yn gymwys i P.
(2) Mae P yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd.
(3) Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wneir o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986.
7 
Mae person sydd wedi ei wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr “barred from regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.
8 
Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P—
(a) 
(i) yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru, neu
(ii) yn byw ar aelwyd y mae unrhyw berson o’r fath wedi ei gyflogi ynddi, a
(b) yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig a ddefnyddir gan yr aelwyd y mae P yn aelod ohoni.
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fyddai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a (3), neu 8 ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai fel arall yn achosi bod P wedi ei anghymhwyso, a phan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ac na fônt wedi tynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna nid yw’r person, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, i’w ystyried fel pe bai wedi ei anghymhwyso at ddiben y Rheoliadau hyn.
(2) Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000.
(3) Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw’r person, cyn 1 Ebrill 2002—
(a) wedi datgelu’r ffeithiau a fyddai’n anghymhwyso’r person o dan y Rheoliadau hyn i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1989, a
(b) wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.
10 
Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig at ddibenion adran 37(2)(a) o’r Mesur (apelau).
11 

(1) Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur (“person cofrestredig”) ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i Weinidogion Cymru—
(a) manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru a wneir neu sy’n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2) sy’n golygu bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn;
(b) y dyddiad pryd y gwnaed y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn neu pryd y cododd unrhyw sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru;
(c) y corff neu’r llys a wnaeth y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn a’r ddedfryd, os oes un, a osodwyd;
(d) mewn perthynas â gorchymyn neu euogfarn, copi o’r gorchymyn perthnasol neu’r gorchymyn llys perthnasol a ardystiwyd gan y corff dyroddi neu’r llys dyroddi.
(2) Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â hwy yw—
(a) y person cofrestredig, a
(b) unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi yn yr aelwyd honno.
(3) Rhaid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg pan ddaeth y person cofrestredig yn ymwybodol o’r wybodaeth honno neu pan ddylai fod wedi dod yn ymwybodol yn rhesymol ohoni pe bai’r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.
(4) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(b) ond yn gymwys mewn cysylltiad ag aelodau’r aelwyd neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi yn aelwyd gwarchodwr plant cofrestredig.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â bodloni gofynion y rheoliad hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Mesur (gan gynnwys canslo cofrestriad yn unol ag adran 31(1) o’r Mesur).
(6) Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.
(7) Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
12 

(1) Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu.
(2) Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “wedi ei anghymhwyso”, ym mharagraff (a) ar ôl “(Anghymhwyso)” mewnosoder “(Rhif 2)”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Tachwedd 2022
ATODLEN 1
Rheoliadau 3(2) a 3(11)
1 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).
2 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).
3 
Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn gofal).
4 
Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).
5 
Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967 (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).
6 
Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2008 (gorchymyn rhianta cymunedol).
7 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn gofal).
8 
Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).
9 
Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002.
10 
Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.
11 
Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
12 
Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011.
13 
Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007.
14 
Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000, adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.
15 
Gorchymyn person addas o dan adran 91, 92, 95 neu 97 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968, gorchymyn hawliau rhiant o dan adran 104 neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan adran 78, adrannau 83 i 90, adran 95 neu adran 97 o’r Ddeddf honno.
16 
Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
17 
Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).
18 
Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—
(a) adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu
(b) adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
19 
Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—
(a) o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968, neu
(b) yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
20 
Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.
21 
Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—
(a) gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(b) canslo cofrestriad P o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(c) canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu
(d) gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.
22 
Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”))—
(a) gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,
(b) gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),
(c) canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,
(d) canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu
(e) gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.
23 
Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—
(a) paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989,
(b) paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989,
(c) adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968,
(d) erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,
(e) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (gwasanaethau cartrefi gofal),
(f) paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald), neu
(g) Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.
24 
Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—
(a) adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat),
(b) erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),
(c) adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth), neu
(d) adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).
25 
Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).
26 
Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—
(a) adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948,
(b) Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 1989,
(c) Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006,
(d) Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,
(e) adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968,
(f) Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001,
(g) adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974 (Deddf Tynwald),
(h) adran 65 neu 66 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 7 iddi,
(i) Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu
(j) Rhan 2 o’r Mesur.
27 
Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003.
28 
Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
29 
Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno.
30 
Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.
31 
Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.
32 
Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw.
ATODLEN 2
Rheoliad 3(5)
1 

(1) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956—
(a) adran 1 (treisio);
(b) adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
(c) adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);
(d) adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);
(e) adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed);
(f) adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);
(g) adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);
(h) adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);
(i) adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);
(j) adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);
(k) adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);
(l) adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).
(2) Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc).
(3) Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach).
(4) Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(5) Trosedd o dan adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980 neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(6) Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
(7) Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001—
(a) adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),
(b) adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu
(c) adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).
(8) Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).
2 
Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—
(a) adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956 (cyfathrach â pherson diffygiol),
(b) adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),
(c) adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),
(d) adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),
(e) adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster difrifol yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,
(f) adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),
(g) adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),
(h) adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),
(i) adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),
(j) adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),
(k) adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),
(l) adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion),
(m) adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967 (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),
(n) adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),
(o) adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968 (bwrgleriaeth), neu
(p) trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).
ATODLEN 3
Rheoliad 3(7)
1 

(1) Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988.
(2) Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).
(3) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997—
(a) adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu
(b) adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol).
(4) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2000—
(a) adran 11 (aelodaeth),
(b) adran 12 (cefnogaeth),
(c) adran 13 (lifrai),
(d) adran 15 (codi arian),
(e) adran 54 (hyfforddiant arfau),
(f) adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),
(g) adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc),
(h) adran 59 (Cymru a Lloegr), neu
(i) adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).
(5) Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—
(a) adran 11(1) (methiant i gofrestru),
(b) adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),
(c) adran 25 (torri rheoliadau),
(d) adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu
(e) adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).
(6) Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003.
(7) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—
(a) adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn),
(b) adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),
(c) adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),
(d) adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),
(e) adran 69 (cyfathrach ag anifail), neu
(f) adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).
(8) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2006—
(a) adran 1 (annog terfysgaeth),
(b) adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),
(c) adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),
(d) adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth),
(e) adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),
(f) adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu
(g) adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).
(9) Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009.
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015—
(a) adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),
(b) adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu
(c) adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
(11) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015—
(a) adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid), neu
(b) adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).
(12) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015—
(a) adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),
(b) adran 2 (masnachu pobl),
(c) adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu
(d) adran 30 (troseddau).
(13) Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016.
(14) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—
(a) adran 5 (gofyniad i gofrestru),
(b) adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),
(c) adran 44 (disgrifiadau anwir),
(d) adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu
(e) adran 47 (datganiadau anwir).
(15) Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(16) Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).
(17) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003—
(a) adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),
(b) adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),
(c) adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu
(d) adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).
2 

(1) Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.
(2) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995.
(3) Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).
(4) Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).
(5) Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(6) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a) adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995, adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (troseddau llochesu);
(b) adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984 (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);
(c) adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(7) Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
(8) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a) adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),
(b) adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu
(c) adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).
(9) Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).
3 

(1) Trosedd treisio o dan erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(2) Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003.
(3) Trosedd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(4) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.
(5) Trosedd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978 (ffotograffau anweddus).
(6) Trosedd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980 (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).
(7) Trosedd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988 (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
(8) Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a) erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),
(b) erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),
(c) erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu
(d) erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
(11) Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015 (masnachu pobl).
(12) Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
4 
Trosedd yn groes—
(a) i Ran 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969,
(b) i Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002, neu
(c) i Gyfraith Gofal Dydd Plant (Jersey) 2002.
5 
Trosedd yn groes—
(a) i’r ‘Loi pour la Punition d’Inceste’ (Cyfraith Cosbi Llosgach) 1909;
(b) i’r ‘Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures’ (Cyfraith Amddiffyn Menywod a Merched Ifanc) 1914;
(c) i’r ‘Loi relative à la Sodomie’ (Cyfraith sy’n ymwneud â Sodomiaeth) 1929;
(d) erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, paragraff 1 o erthygl 41 neu baragraff 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o’r ‘Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes’ (Cyfraith sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917;
(e) Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;
(f) Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985.
6 
Trosedd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7 

(1) Trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.
(2) Trosedd yn rhinwedd—
(a) adran 72 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig), neu
(b) adran 16B o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995 (cyflawni troseddau rhywiol penodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
(3) Trosedd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw pobl sy’n absennol yn gaeth).Trosedd yn groes i erthygl 10(2) (trosedd sy’n ymwneud â dianc) neu erthygl 11(1) (trosedd rhwystro bwriadol) o Orchymyn Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013