
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Mae’n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2022.
2 

(1) Mae Gorchymyn Compartmentau Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl yn yr Atodlen, ym mhob lle y mae’n digwydd, hepgorer “+ TAW”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Saesneg erthygl 2, yn y diffiniad o “collection centre”, yn lle “a premises” rhodder “premises”.
(3) Yn lle’r Atodlen rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
4 
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 2 a 3 yn cael unrhyw effaith mewn perthynas ag unrhyw ffi a godir mewn perthynas â chais sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Tachwedd 2022
YR ATODLEN
Erthygl 3(3)
“
YR ATODLEN
Erthygl 3

Tabl 1
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gweithgaredd Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu. 318 379
Cais am ddyroddi neu (pan fo’r fangre wedi ei newid yn sylfaenol) ddiwygio trwydded ar gyfer mangre werthu neu ganolfan gasglu pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 90 o funudau o amser arolygu. 550 685
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol cynnal un ymweliad arolygu yn unig er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygu. 279 340
Ffi adnewyddu trwydded flynyddol ar gyfer mangre a ddefnyddir ar gyfer gwerthiannau anifeiliaid neu fel canolfan gasglu, pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod y fangre honno yn peri mwy na risg isel o ran clefydau, a’i bod yn ofynnol felly cynnal dau ymweliad arolygu er mwyn penderfynu ar yr adnewyddiad. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 2 x 75 o funudau o amser arolygu. 414 486

Tabl 2
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gweithgaredd Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny Ffi (£) am geisiadau sy’n dod i law, a thrwyddedau a adnewyddir, ar ôl 30 Tachwedd 2023
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 175 236
Cais am drwydded i drefnu sioeau neu arddangosfeydd mewn mangre y mae arolygydd milfeddygol yn asesu ei bod yn peri mwy na risg isel o ran clefydau. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 90 o funudau o amser arolygu. 327 408
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu nad yw ymweliad arolygu yn ofynnol. 130 168
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 141 171
Adnewyddu trwydded mangre sioeau neu arddangosfeydd yn flynyddol pan fo arolygydd milfeddygol yn asesu bod mwy nag ymweliad arolygu sylfaenol yn ofynnol. Mae’r ffi hon yn cynnwys hyd at 60 munud o amser arolygu. 193 229

Tabl 3
Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Gweithgaredd Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar 30 Tachwedd 2023 neu cyn hynny Ffi (£) am ymweliadau milfeddygol a gynhelir ar ôl 30 Tachwedd 2023
Ymweliad milfeddygol ychwanegol at ddiben ystyried cais am drwydded, adnewyddu trwydded yn flynyddol neu ymweliad dilynol yn sgil peidio â chydymffurfio, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 246 318
Ymweliad milfeddygol at ddiben ystyried cais am newid gweithredol yn ystod y flwyddyn, sy’n cynnwys hyd at 75 o funudau o amser arolygydd milfeddygol ar gyfer yr ymweliad hwnnw. 246 318
Tâl atodol ar unrhyw ymweliad pan fo’r amser arolygu milfeddygol yn hwy na’r amser penodedig a ddarperir yn yr Atodlen hon. 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir
Yr amser a dreulir gan arolygydd milfeddygol yn teithio i’r fangre drwyddedig, neu’r fangre y bwriedir ei thrwyddedu, ac oddi yno, at ddiben gweithgareddau trwyddedu nad ydynt wedi eu heithrio rhag ffioedd o dan erthygl 3(4) o’r Gorchymyn hwn. 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132 22 am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr a dreulir, hyd at uchafswm o 132”