
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Mawrth 2022.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr, ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniadau o “EEA Agreement” a “EEA State”;
(b) ar ôl y diffiniad o “sell”, mewnosoder—“
 “third country” means any country, other than the United Kingdom, and includes—
(a) the Bailiwick of Guernsey;
(b) the Bailiwick of Jersey;
(c) the Isle of Man.”
(3) Yn rheoliad 3 (esemptiadau)—
(a) hepgorer paragraffau (2) a (3);
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
(4) These Regulations do not apply to the following bread or flour if the nature of that bread or flour is clearly indicated on the labelling—
(a) any bread produced in Wales that is to be exported to a third country;
(b) any flour produced in Wales that is—
(i) to be exported to a third country, or
(ii) for use in the production of food that is to be exported to a third country;
(c) any flour imported or moved into Wales that is for use in Wales for the production of food that is to be exported to a third country.”
(4) Yn rheoliad 4 (cyfansoddiad blawd)—
(a) ym mharagraff (4), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) no person shall import or move into Wales any flour, or sell any flour imported or moved into Wales by them, which does not comply with this regulation.”
(b) ym mharagraff (5), yn lle “or importation into Great Britain” rhodder “, importation or movement into Wales”.
3 

(1) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 2(3)(a) o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Bara a Blawd 1998 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.
4 
Yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008, hepgorer rheoliad 3 (esemptiadau).
5 

(1) Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3 o Reoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.
6 
Yn Rheoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014, yn rheoliad 3 (cwmpas)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “baragraffau (2) a (3)” rhodder “baragraff (2)”;
(b) hepgorer paragraff (3).
7 

(1) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliad 6 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(3) o Reoliadau Cynhyrchion sy’n Cynnwys Cig etc. (Cymru) 2014 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.
8 
Yn Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018, yn rheoliad 3 (cwmpas), hepgorer paragraff (2).
9 

(1) Er gwaethaf y diwygiad a wneir gan reoliad 8 o’r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 3(2) o Reoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018 yn parhau i gael effaith fel yr oedd yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Medi 2022.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Chwefror 2022