
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Anifeiliaid (Awdurdodiadau) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2022.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion sydd i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid;
 ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd Cymraeg a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadrodd Saesneg yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr â’r ymadrodd hwnnw yn Rheoliadau’r UE a ddargedwir.
3 

(1) Mae Atodlenni 1 i 11 yn cynnwys awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid.
(2) Yn ddarostyngedig i Erthygl 14(4) (adnewyddu awdurdodiad) o Reoliad 1831/2003, mae’r awdurdodiadau a nodir yn Atodlenni 1 i 11 yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 23 Tachwedd 2032.
4 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 306/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) ar gyfer perchyll wedi eu diddyfnu a Suidae wedi eu diddyfnu heblaw Sus scrofa domesticus wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “
Bacillus velezensis”.
5 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 787/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “
Bacillus velezensis”.
6 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1020 sy’n ymwneud ag awdurdodiad paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir dodwy a mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “
Bacillus velezensis”.
7 

(1) Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2276 sy’n ymwneud ag awdurdodiad defnydd newydd o’r paratoad o Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer hychod wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodiad, yn y tabl, yng ngholofnau 3 (yr ychwanegyn) a 4 (cyfansoddiad, fformiwla gemegol, disgrifiad, dull dadansoddi), yn lle “Bacillus subtilis”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “
Bacillus velezensis”.
8 
Mae’r offerynnau a restrir yn Atodlen 12 wedi eu dirymu.
9 

(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad a gynhwysir yn Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu;
 mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407, neu fel y’i dynodwyd yn flaenorol, 
Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 sydd â’r rhif adnabod 4b1702, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
10 

(1) Caniateir i unrhyw sylwedd neu gynnyrch a labelwyd “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737” neu a labelwyd fel sylwedd neu gynnyrch sy’n cynnwys “Bacillus subtilis ATCC PTA-6737”, ond sydd fel arall wedi cael ei gynhyrchu a’i labelu yn unol ag awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys mewn offeryn a grybwyllir yn rheoliadau 4 i 7, barhau i gael ei roi ar y farchnad a’i ddefnyddio o dan yr awdurdodiad hwnnw.
(2) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a rhag-gymysgeddau sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(3) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(4) Caniateir i fwyd anifeiliaid cyfansawdd a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol ac a fwriedir ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Tachwedd 2024 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael ei roi neu eu rhoi ar y farchnad a’i ddefnyddio neu eu defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn—
 Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi, neu
 Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid;mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 neu, fel y’i dynodwyd yn flaenorol, 
Bacillus subtilis ATCC PTA-6737, sydd â’r rhif adnabod 4b1823, a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw.
11 

(1) Caniateir i’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol a bwyd anifeiliaid sy’n ei gynnwys, a gynhyrchir ac a labelir cyn diwedd 23 Mai 2023 yn unol ag amodau’r awdurdodiad ymlaen llaw, barhau i gael eu rhoi ar y farchnad a’u defnyddio hyd nes y bydd y stociau presennol wedi eu dihysbyddu.
(2) Yn y rheoliad hwn—
 mae “yr awdurdodiad ymlaen llaw” (“the prior authorisation”) yn cyfeirio at yr awdurdodiad sydd wedi ei gynnwys yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill;
 mae “ychwanegyn bwyd anifeiliaid perthnasol” (“relevant feed additive”) yn cyfeirio at yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid Decocwinad (Deccox®)a awdurdodwyd yn flaenorol o dan yr awdurdodiad ymlaen llaw sydd â’r rhif adnabod E756.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
31 Hydref 2022
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “cyfansoddion elfennau hybrin”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Celad manganîs o lysin ac asid glwtamig
Rhif adnabod yr ychwanegyn 3b509
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Cyfansoddion elfennau hybrin
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o geladau manganîs gyda lysin a cheladau manganîs gydag asid glwtamig mewn cymhareb o 1:1 fel powdr gyda’r cydrannau a ganlyn:
• Manganîs 15-17%
• Lysin 20-21.5%
• Asid glwtamig 22-24%
• Lleithder – uchafswm o 3.5%
• Nicel – uchafswm o 4 ppm
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Manganîs-2, asid 6-diaminohecsanoïg, clorid a halwyn hydrogen sylffad (C6H19ClN2O8SMn)Asid manganîs-2-aminopentanedioïg, sodiwm a halwyn hydrogen sylffad (C5H10NNaO9SMn)
Dulliau dadansoddi I feintioli cyfanswm y manganîs yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid :
• Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001), neu
• Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017).
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y rhag-gymysgeddau:
• Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001),
• Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017),
• Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017), neu
• Sbectrometreg Màs â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018).
I feintioli cyfanswm y manganîs yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) – Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 152/2009 sy’n gosod y dulliau samplu a dadansoddi ar gyfer rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol (Atodiad 4-C),
• Sbectrometreg Amsugniad Atomig (AAS) (BS EN ISO 6869:2001),
• Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-AES) (BS EN 15510:2017),
• Sbectrometreg Allyriant Atomig â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol ar ôl treulio drwy bwysedd (ICP-AES) (BS EN 15621:2017), neu
• Sbectrometreg Màs â Phlasma a Gyplyswyd yn Anwythol (ICP-MS) (BS EN 17053:2018).
I feintioli cynnwys lysin ac asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Cromatograffi cyfnewid iönau a gyplysir â deilliant ôl-golofn a synhwyrydd ffotometrig (IEC-VIS) (BS EN ISO 13903:2005).
I ganfod ffurf geladedig yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Sbectrometreg isgoch canol (IR) ynghyd â chanfod cynnwys yr elfennau hybrin a’r lysin a’r asid glwtamig yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Pysgod: 100mg/kg (cyfanswm)
Pob rhywogaeth arall o anifail: 150mg/kg (cyfanswm)
Darpariaethau eraill Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid ar ffurf rhag-gymysgedd.








ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion technolegol” ac i’r grŵp gweithredol “ychwanegion silwair”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Lactobacillus buchneri DSM 29026

Rhif adnabod yr ychwanegyn 1k20759
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion technolegol
Grŵp gweithredol Ychwanegion silwair
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o Lactobacillus buchneri DSM 29026 sy’n cynnwys isafswm o 2 × 1010 CFU/g o’r ychwanegyn

Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd hyfyw Lactobacillus buchneri DSM 29026

Dulliau dadansoddi Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Dull plât taenu ar agar MRS (BS EN 15787:2021).
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Isafswm cynnwys yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid pan nad yw wedi ei gyfuno â micro-organeddau eraill fel ychwanegion silwair: 5 x 107 CFU/kg o ddeunydd ffres sy’n hawdd ac yn gymedrol anodd i’w silweirio
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio.





ATODLEN 3
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Proteas serin (EC 3.4.21.-)
Rhif adnabod yr ychwanegyn 4a13
Deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd (Y Swistir)
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad solet a hylifol o broteas serin (EC 3.4.21.-):
• a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670
• sydd ag isafswm actifedd o 75,000 PROT/g
Nodweddiad y sylwedd(au) actif 
• Proteas serin (EC 3.4.21.-) a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis DSM 19670
• Rhif CAS: 37259-58-8 (proteas serin)
• Rhif EINECS: 253-431-3
• Rhif IUB: 3.4.21.-
Dulliau dadansoddi I feintioli actifedd proteas serin yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y bwyd anifeiliaid cyfansawdd a’r deunyddiau bwyd anifeiliaid:
• y dull colorimetrig ar sail adwaith ensymatig proteas serin ar y swbstrad Suc-Ala-Ala-Pro-Phe-pNA.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Ieir i’w pesgi
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 15,000 PROT/kg

Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.







ATODLEN 4
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion maethol” ac i’r grŵp gweithredol “fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Pyridocsin hydroclorid (fitamin B6)

Rhif adnabod yr ychwanegyn 3a831
Deiliad yr awdurdodiad Dim un wedi ei bennu
Categori ychwanegion Ychwanegion maethol
Grŵp gweithredol Fitaminau, pro-fitamiau a sylweddau wedi eu diffinio’n dda yn gemegol sydd ag effaith debyg
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Pyridocsin hydroclorid, gyda meini prawf puredd heb fod yn llai na 98.5%
Nodweddiad y sylwedd(au) actif 
• Pyridocsin hydroclorid: C8H11NO3·HCl
• Rhif CAS:58-56-0
• Rhif EINECS: 200-386-2
Dulliau dadansoddi I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Titradiad ag asid perclorig (Ph. Eur. 10fed argraffiad, monograff 0245).
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn rhag-gymysgeddau:
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd Uwch Fioled (RP-HPLC-UV) (VDLUFA 13.9.1).
I ganfod pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn bwyd anifeiliaid a dŵr:  
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FLD) – dull yn seiliedig ar BS EN 14164:2014.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Pob rhywogaeth o anifail
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Dim
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres ac mewn dŵr.
2. Gellir defnyddio pyridocsin hydroclorid (fitamin B6) mewn dŵr i’w yfed.









ATODLEN 5
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407

Rhif adnabod yr ychwanegyn 4b1702
Deiliad yr awdurdodiad S.I. Lesaffre
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5x109 CFU/g

Nodweddiad y sylwedd(au) actif Celloedd sych hyfyw Saccharomyces cerevisiae CNCM I-4407

Dulliau dadansoddi Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull plât arllwys gan ddefnyddio agar CGED (cloramffenicol, glwcos, echdynnyn burum) (BS EN 15789:2021).
Ar gyfer adnabod y straen burum:Y dull adwaith cadwynol polymerasau (PCR) (DD CEN/TS 15790:2008).
Rhywogaeth neu gategori o anifail Lloi magu
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 1.5 x 109 CFU/kg

Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.





ATODLEN 6
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Bacillus velezensis ATCC PTA-6737

Rhif adnabod yr ychwanegyn 4b1823
Deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa N.V.
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 sy’n cynnwys isafswm o 8 x 1010 CFU/g o’r ychwanegyn
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sborau hyfyw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737
Dulliau dadansoddi Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull plât taenu gan ddefnyddio agar soia trypton gan rag-drin y samplau bwyd anifeiliaid â gwres.
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Ieir i’w pesgi
• Ieir a fegir ar gyfer dodwy
• Mân rywogaethau dofednod (ac eithrio ar gyfer dodwy)
• Adar addurnol
• Adar helwriaeth
• Adar hela
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 1 x 107 CFU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Os yw Bacillus velezensis ATCC PTA-6737 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
• Decocwinad
• Deuclaswril
• Lasalosid A sodiwm
• Madwramisin amoniwm
• Monensin sodiwm
• Narasin
• Narasin/Nicarbasin (i’w defnyddio ar y cyd yn unig)
• Robenidin hydroclorid
• Salinomisin sodiwm




ATODLEN 7
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Bacillus licheniformis DSM 28710
Rhif adnabod yr ychwanegyn 4b1828
Deiliad yr awdurdodiad HuvePharma NV
Categori ychwanegion Ychwanegyn bwyd anifeiliaid sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o Bacillus licheniformis DSM 28710 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 3.2 × 109 CFU/g o ychwanegyn.
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sborau hyfyw Bacillus licheniformis DSM 28710.

Dulliau dadansoddi Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull plât taenu (BS EN 15784:2021).
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis Jel Maes Pylsedig (PFGE).
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Ieir dodwy
• Mân rywogaethau dofednod ar gyfer dodwy
• Rhywogaethau dofednod ar gyfer bridio
• Adar addurnol
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 1.6 x 109 CFU/kg

Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Os yw Bacillus licheniformis DSM 28710 i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
• Deuclaswril
• Lasalosid A sodiwm




ATODLEN 8
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sefydlogyddion fflora’r perfedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Clostridium butyricum FERM BP-2789

Rhif adnabod yr ychwanegyn 4b1830
Deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co Ltd
Categori ychwanegion Ychwanegyn sootechnegol
Grŵp gweithredol Sefydlogyddion fflora’r perfedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o Clostridium butyricum FERM BP-2789 ar ffurf solet sy’n cynnwys isafswm o 5 × 108 CFU/g o’r ychwanegyn

Nodweddiad y sylwedd(au) actif Sborau hyfyw Clostridium butyricum FERM BP-2789

Dulliau dadansoddi Ar gyfer cyfrifo (cyfrif cytrefi) yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull plât arllwys yn seiliedig ar BS ISO 15213:2003.
I adnabod straen bacterol:
• Electrofforesis jel maes pylsedig (PFGE).
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Ieir i’w pesgi
• Ieir a fegir ar gyfer dodwy
• Tyrcwn i’w pesgi
• Tyrcwn a fegir ar gyfer bridio
• Mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy)
• Perchyll (sugno ac wedi eu diddyfnu)
• Mân rywogaethau teulu’r moch (sugno ac wedi eu diddyfnu)
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys Ar gyfer tyrcwn i’w pesgi a thyrcwn a fegir ar gyfer bridio: 1.25 x 108 CFU/kg

Ar gyfer y rhywogaethau/categorïau eraill: 2.5 x 108 CFU/kg

Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Os yw Clostridium butyricum FERM BP-2789 ) i’w ddefnyddio mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys cocsidiostatau, awdurdodir defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid hwn gyda’r cocsidiostatau a ganlyn yn unig, ac yn unol â’u meini prawf awdurdodi unigol:
• Decocwinad
• Deuclaswril
• Lasalosid A sodiwm
• Madwramisin amoniwm
• Monensin sodiwm,
• Narasin,
• Narasin/Nicarbasin (i’w defnyddio ar y cyd)
• Robenidin hydroclorid
• Salinomisin sodiwm
• Semdwramisin sodiwm




ATODLEN 9
Rheoliad 3(1)

Mae’r paratoad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “ychwanegion sootechnegol” ac i’r grŵp gweithredol “sylweddau gwella treuliadwyedd”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn  6-ffytas (EC 3.1.3.26)
Rhif adnabod yr ychwanegyn 4a32
Deiliad yr awdurdodiad Huvepharma EOOD
Categori ychwanegion Ychwanegion sootechnegol
Grŵp gweithredol Sylweddau gwella treuliadwyedd
Cyfansoddiad yr ychwanegyn Paratoad o 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir gan Komagataella phaffii DSM 32854 sydd ag isafswm actifedd o 5000 FTU
/g ar ffurf ronynnol, araenedig neu hylifol

Nodweddiad y sylwedd(au) actif 6-ffytas (EC 3.1.3.26) a gynhyrchir drwy eplesu â Komagataella phaffii DSM 32854

Dulliau dadansoddi I feintioli actifedd ffytas yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid:
• Y dull colorimetrig yn seiliedig ar adwaith ensymatig y ffytas ar y ffytad (VDLUFA 27.1.4).
I feintioli actifedd ffytas yn y rhag-gymysgeddau:
• Y dull colorimetrig yn seiliedig ar adwaith ensymatig y ffytas ar y ffytad (VDLUFA 27.1.3).
I feintioli actifedd ffytas yn y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Y dull colorimetrig yn seiliedig ar adwaith ensymatig y ffytas ar y ffytad (BS EN ISO 30024:2009).
Rhywogaeth neu gategori o anifail 
• Pob rhywogaeth o ddofednod
• Adar addurnol
• Perchyll
• Moch i’w pesgi
• Hychod
• Mân rywogaethau teulu’r moch i’w pesgi neu ar gyfer atgenhedlu
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 250 FTU/kg
Uchafswm cynnwys Dim
Darpariaethau eraill Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.







ATODLEN 10
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Decocwinad (Deccox®)
Rhif adnabod yr ychwanegyn 51756i
Deiliad yr awdurdodiad Zoetis Belgium SA
Categori ychwanegion Cocsidiostatau a Histomonostatau
Grŵp gweithredol Dim
Cyfansoddiad yr ychwanegyn 
• Decocwinad, 60.0 g/kg
• Olew soia diarogleuedig puredig, 28.5 g/kg
• Silica coloidaidd, 0.6 g/kg
• Eilion gwenith, q.s. 1kg
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad)
• Fformiwla gemegol: C24H35NO5
• Rhif CAS: 18507-89-6
Amhureddau cysylltiedig:
• Methyl-6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsilad: < 1.0%
• Asid 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylig: < 0.5%
• Deuethyl-4-desyclocsi-3-ethocsianilinomethylenemalonad: < 0.5%
Dulliau dadansoddi I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FL) (BS EN 16162:2012).
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â sbectrometr màs pedrypol triphlyg (RP-HPLC-MS/MS).
Rhywogaeth neu gategori o anifail Ieir i’w pesgi
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 30 mg/kg
Uchafswm cynnwys 40 mg/kg
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad gyda chocsidiostatau eraill.
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit.
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031.







ATODLEN 11
Rheoliad 3(1)

Mae’r sylwedd decocwinad a bennir yn y tabl, sy’n perthyn i’r categori ychwanegion “cocsidiostatau a histomonostatau”, wedi ei awdurdodi fel ychwanegyn mewn maeth anifeiliaid yn ddarostyngedig i’r amodau a nodir yn y tabl.
Yr ychwanegyn Decocwinad (Avi-Deccox® 60G)

Rhif adnabod yr ychwanegyn 51756ii
Deiliad yr awdurdodiad Zoetis Belgium SA
Categori ychwanegion Cocsidiostatau a histomonostatau
Grŵp gweithredol Dim
Cyfansoddiad yr ychwanegyn 
• Decocwinad, 60.0 g/kg
• Silica coloidaidd, 0.6 g/kg
• Silicon deuocsid, 4.0 g/kg
• Sodiwm carbocsimethylcellwlos, 30.0 g/kg
• Calsiwm sylffad deuhydrad, q.s. ad 1kg
Nodweddiad y sylwedd(au) actif Decocwinad: (Ethyl 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad)Fformiwla gemegol: C24H35NO5Rhif CAS: 18507-89-6
Amhureddau cysylltiedig:
• Methyl-6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylad: < 1.0%
• Asid 6-desyclocsi-7-ethocsi-4-hydrocsicwinolin-3-carbocsylig: < 0.5%
• Deuethyl-4-desyclocsi-3-ethocsianilinomethylenemalonad: < 0.5%
Dulliau dadansoddi I feintioli decocwinad yn yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid, y rhag-gymysgeddau, y deunyddiau bwyd anifeiliaid a’r bwyd anifeiliaid cyfansawdd:
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro gyda synhwyrydd fflworoleuedd (RP-HPLC-FL) (BS EN 16162:2012).
I feintioli decocwinad mewn meinweoedd:
• Cromatograffaeth Hylif Perfformiad Uchel gwedd wrthdro wedi ei gyplysu â sbectrometr màs pedrypol triphlyg (RP-HPLC-MS/MS) neu unrhyw ddull dadansoddi arall sy’n cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/657/EC ynghylch perfformiad dulliau dadansoddi a dehongli canlyniadau.
Rhywogaeth neu gategori o anifail Ieir i’w pesgi
Oedran hynaf Dim
Isafswm cynnwys 30 mg/kg
Uchafswm cynnwys 40 mg/kg
Darpariaethau eraill 1. Yn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid a’r rhag-gymysgeddau, rhaid nodi’r amodau storio a’r sefydlogrwydd o ran trin â gwres.
2. Rhaid ymgorffori’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid yn y bwyd anifeiliaid cyfansawdd ar ffurf rhag-gymysgedd.
3. Ni chaniateir cymysgu decocwinad â chocsidiostatau eraill.
4. Ni chaniateir defnyddio decocwinad mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys bentonit.
5. Rhaid i ddeiliad yr awdurdodiad gynnal rhaglen fonitro ar ôl rhyddhau ar y farchnad ar gyfer ymwrthedd i facteria ac Eimeria spp. Rhaid cyflwyno adroddiad yn cynnwys canlyniad y rhaglen honno i Weinidogion Cymru erbyn diwedd 23 Tachwedd 2031.







ATODLEN 12
Rheoliad 8


 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1289/2004 sy’n ymwneud ag awdurdodi am 10 mlynedd yr ychwanegyn Deccox® mewn bwydydd anifeiliaid, sy’n perthyn i’r grŵp o gocsidiostatau a sylweddau meddyginiaethol eraill.
 Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 903/2009 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium).
 Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 8/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi’r proteas serin a gynhyrchir gan Bacillus licheniformis (DSM 19670) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad DSM Nutritional Products Ltd, a gynrychiolir gan DSM Nutritional Products Sp.Z.o.o).
 Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 107/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV).
 Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 883/2010 sy’n ymwneud ag awdurdodi defnydd newydd o Saccharomyces cerevisiae NCYC Sc 47 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer lloi magu (deiliad yr awdurdodiad Société industrielle Lesaffre).
 Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 168/2011 sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 107/2010 ynghylch y defnydd o’r ychwanegyn bwyd anifeiliaid Bacillus subtilis ATCC PTA-6737 mewn bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys madwramisin amoniwm, monensin sodiwm, narasin, neu robenidin hydroclorid.
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 373/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum FERM-BP 2789 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer mân rywogaethau adar ac eithrio adar dodwy, perchyll wedi eu diddyfnu a mân rywogaethau teulu’r moch (wedi’u diddyfnu) ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd, a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium).
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 515/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi fitamin B6 fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer pob rhywogaeth o anifail.
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 885/2011 sy’n ymwneud ag awdurdodi Bacillus subtilis (ATCC PTA-6737) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy, hwyaid i’w pesgi, soflieir, ffesantod, petris, ieir gini, colomennod, gwyddau i’w pesgi ac estrysiaid (deiliad yr awdurdodiad Kemin Europa NV).
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 357/2013 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 373/2011 ynghylch isafswm cynnwys paratoad o Clostridium butyricum (FERM BP-2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir i’w pesgi a mân rywogaethau adar (ac eithrio adar dodwy) (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Miyarisan Pharmaceutical Europe S.L.U.).
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 374/2013 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer ieir a fegir ar gyfer dodwy (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium).
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 291/2014 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1289/2004 ynghylch y cyfnod cadw’n ôl a therfynau gweddillion uchaf yr ychwanegyn bwyd anifeiliaid decocwinad.
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 1108/2014 sy’n ymwneud ag awdurdodi paratoad o Clostridium butyricum (FERM-BP 2789) fel ychwanegyn bwyd anifeiliaid ar gyfer tyrcwn a fegir ar gyfer bridio (deiliad yr awdurdodiad Miyarisan Pharmaceutical Co. Ltd a gynrychiolir gan Huvepharma NV Belgium).
 Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1126 sy’n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 903/2009 a Rheoliadau Gweithredu (EU) Rhif 373/2011, (EU) Rhif 374/2013 ac (EU) Rhif 1108/2014 ynghylch enw cynrychiolydd yn yr UE ddeiliad awdurdodiad paratoad o 
Clostridium butyricum (FERM-BP 2789).
