
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Mawrth 2022.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
 mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996.
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at y darpariaethau a ddiwygiwyd neu a ddiddymwyd gan Atodlen 2 i Ddeddf 2021 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn i Atodlen 2 i Ddeddf 2021 ddod i rym.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at blentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo “o dan yr hen gwricwlwm” yn gyfeiriadau at y plant hynny a’r disgyblion hynny y mae Rhan 2, 3, neu 5 o Ddeddf 2021 yn gymwys iddynt, ond nad yw’r Rhan berthnasol o’r Ddeddf honno wedi dod i rym eto mewn perthynas â hwy.
3 

(1) Er gwaethaf cychwyn adran 73 o Ddeddf 2021, ac Atodlen 2 iddi, mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith—
(a) mewn perthynas â phlentyn neu ddisgybl y darperir addysg iddo o dan yr hen gwricwlwm, a
(b) mewn perthynas ag addysg a ddarperir felly.
(2) Mae paragraff (1) yn peidio â chael effaith ar 1 Medi 2028.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Chwefror 2022