
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2022.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1971” (“the 1971 Regulations”) yw Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971.
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (dehongli), rhodder—“
2. 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246);
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
 ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;
 mae i “y diwrnod penodedig” (“appointed day”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;
 ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—
(a) a wnaed yn ystod y contract wedi ei drosi perthnasol y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn gymwys iddo, neu
(b) sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—
(i) cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
(ii) ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr, a
(iii) pan ddaw tenantiaeth sicr neu feddiannaeth amaethyddol sicr i ben, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant na’r trwyddedai (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion, o leiaf un ohonynt);
 mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;
 mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));
 mae i “meddiannaeth amaethyddol sicr” (“assured agricultural occupancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 1 o Atodlen 12 i’r Ddeddf);
 ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977;
 nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—
(a) unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, na
(b) unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019,ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985, pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;
 mae i “tenantiaeth sicr” (“assured tenancy”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 242).”
(3) Yn rheoliad 6 (rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy)—
(a) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn y testun Cymraeg—
(i) yn lle “gael ei osod”, rhodder “gael ei gosod”;
(ii) yn lle “ymwneud â hi”, rhodder “ymwneud ag ef”;
(b) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag”, rhodder “gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol”;
(c) ym mharagraff (a), yn lle “wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “meddiannaeth”;
(d) ym mharagraff (c), yn lle “tenant neu’r trwyddedai perthnasol”, rhodder “tenant neu’r trwyddedai,”;
(e) ym mharagraff (d)—
(i) ar ôl “fethiant gan y”, hepgorer “tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r”;
(ii) ar ôl “delerau’r”, hepgorer “denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r”;
(iii) ar ôl “contract wedi ei drosi perthnasol”, rhodder “neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig”.
(4) Yn rheoliad 8 (diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971)—
(a) ym mharagraff (2)(b), sy’n mewnosod diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 1971—
(i) hepgorer y diffiniad o “relevant preceding tenancy or licence”;
(ii) hepgorer y diffiniad o “relevant tenant or licensee”;
(iii) yn y testun Cymraeg, yn y geiriau o flaen y diffiniad o “dwelling”, yn lle “mannau”, rhodder “lleoedd”;
(b) ym mharagraff (4), yn y testun a fewnosodir yn rheoliad 3(3)(c) o Reoliadau 1971, hepgorer “, relevant tenant or licensee,”;
(c) ym mharagraff (5), sy’n diwygio rheoliad 5(1)(b) o Reoliadau 1971, yn lle is-baragraff (a), rhodder—“
(a) yn lle “assured tenancies or assured agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, assured agricultural occupancies or relevant converted contracts”,”.
(5) Yn yr Atodlen, yn y ffurflen ragnodedig, ar ôl “8. Gwelliannau”, yn lle paragraff (a), rhodder—“
(a) A ydych chi neu unrhyw gyn-denant(iaid) neu drwyddedai neu drwyddedeion wedi gwneud gwelliannau neu wedi amnewid gosodiadau, ffitiadau neu ddodrefn NAD oeddech chi nac hwythau yn gyfrifol amdanynt o dan delerau’r denantiaeth neu’r drwydded/y contract meddiannaeth?”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2022