
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2022.
2 

(1) Mae Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 (diogelwch trydanol)—
(a) ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(c) ym mharagraff (5), yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”;
(d) ym mharagraff (8), yn y diffiniad o “safonau diogelwch trydanol”, yn lle “BS 7671:2018+A1:2020”, rhodder “BS 7671:2018+A2:2022”.
(3) Yn rheoliad 7 (cymhwyso i gontractau wedi eu trosi), ym mharagraff (5), ym mharagraff (4) a amnewidiwyd, yn lle “7 niwrnod”, rhodder “14 o ddiwrnodau”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2022