
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) a (Coronafeirws) (Dirymu) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2022.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.
2 
Mae’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 1(3) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), hepgorer y diffiniadau o “y Comisiwn Ansawdd Gofal” a “coronafeirws”.
4 
Yn rheoliad 2(1) (gwasanaethau cartrefi gofal)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (j), yn lle’r hanner colon rhodder atalnod llawn;
(b) hepgorer is-baragraff (k) a’r geiriau cloi yn union ar ei ôl.
5 
Yn rheoliad 3(1) (gwasanaethau cymorth cartref)—
(a) ar ddiwedd is-baragraff (i), yn lle’r hanner colon rhodder atalnod llawn;
(b) hepgorer is-baragraff (j) a’r geiriau cloi yn union ar ei ôl.
6 
Yn rheoliad 35 (addasrwydd staff)—
(a) ym mharagraff (2)(d), hepgorer “yn ddarostyngedig i baragraff (9A) o’r rheoliad hwn,”;
(b) hepgorer paragraff (9A).
7 
Yn rheoliad 45 (ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir – oedolion)—
(a) hepgorer paragraff (2A);
(b) yn lle paragraff (3)(c), rhodder—“
(c) roedd yr holl oedolion sy’n cael eu lletya mewn ystafelloedd a rennir yn rhannu ystafell ag oedolyn arall ar yr adeg berthnasol.”
8 
Yn rheoliad 49 (cymhwyso Rhan 13)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle’r testun sy’n disgrifio mangre Categori C, rhodder—“Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—
(a) at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall;
(b) fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i ddarparu llety mewn cartref plant, cartref gofal, neu ganolfan breswyl i deuluoedd;
(c) fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 neu 2 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 i ddarparu llety preswyl i bersonau y mae angen gofal personol arnynt (oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu anhwylder meddwl);
(d) fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef mewn cofrestr a gedwir at ddibenion adran 60 o Ddeddf Plant 1989, neu o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno, i ddarparu llety preswyl i blant.”;
(b) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd;
(b) mae i “cartref plant”, “cartref gofal” a “canolfan breswyl i deuluoedd” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “care home” a “residential family centre” yn ôl eu trefn yn adrannau 1, 3 a 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel yr oedd yn cael effaith yng Nghymru yn union cyn 1 Ebrill 2017.”
9 
Mae rheoliad 49 o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn parhau i gael effaith heb y diwygiadau a wneir gan reoliad 8 mewn perthynas â chais (gan gynnwys unrhyw apêl sy’n deillio o gais o’r fath) a wneir i Weinidogion Cymru ar neu cyn 31 Hydref 2022—
(a) i gofrestru fel darparwr gwasanaeth (o dan adran 6 o’r Ddeddf);
(b) i amrywio cofrestriad fel darparwr gwasanaeth (o dan adran 11 o’r Ddeddf).
10 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 wedi eu dirymu.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Hydref 2022