
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol a Bwriadoldeb) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Hydref 2022.
2 
Yn adran 70(1) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(k) person—
(i) sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii) y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
3 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015, ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(k) person—
(i) sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu
(ii) y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef.”
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
19 Hydref 2022