
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 7 Tachwedd 2022.
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
3 
Yn rheoliad 3(1)—
(a) yn y diffiniad o “corff llywodraethu”, ar y diwedd mewnosoder “ac mewn perthynas ag ysgol berthnasol sy’n uned cyfeirio disgyblion, mae’n cynnwys pwyllgor rheoli’r uned cyfeirio disgyblion (os oes un)”;
(b) yn y diffiniad o “pennaeth”, ar y diwedd mewnosoder “a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion”;
(c) yn y diffiniad o “diwrnod gwaith”—
(i) ar ôl “dydd Sul” mewnosoder “, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith”, a
(ii) ar ôl “ŵyl banc” mewnosoder “yng Nghymru a Lloegr”;
(d) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr un ystyr ag sydd i “pupil referral unit” yn adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996;”.
4 
Yn rheoliad 5(1)—
(a) yn is-baragraff (a)—
(i) hepgorer “neu” ar ôl “ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig,”, a
(ii) ar ôl “(ym mhob achos o fewn ystyr y termau cyfatebol Saesneg yn Neddf 1998)” mewnosoder “, neu uned cyfeirio disgyblion”;
(b) hepgorer is-baragraff (b).
5 
Ar ôl rheoliad 6 (gofyniad i ymgymryd â chyfnod sefydlu) mewnosoder—“
6A. 

(1) Rhaid i gyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn 5 mlynedd sy’n dechrau gyda’r diweddaraf o blith y dyddiad pan ddyfernir statws athro neu athrawes gymwysedig, neu 7 Tachwedd 2022 (“y terfyn amser”).
(2) Ond pan fo’r corff priodol yn estyn y terfyn amser yn unol â rheoliad 6B, rhaid i’r cyfnod sefydlu gael ei gwblhau’n foddhaol o fewn y terfyn amser estynedig.
6B. 

(1) Rhaid i’r corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod estynedig, wedi dod i ben ai peidio) pan—
(a) bo cyfnod sefydlu’r person hwnnw yn cael ei estyn yn unol â rheoliad 10, 13(2)(b), 16(2)(c) neu (3)(c), a
(b) na fo digon o amser ar gael o fewn y terfyn amser i’r corff priodol wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 13(2).
(2) Caiff y corff priodol estyn y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) ar gyfer person (pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir, neu unrhyw gyfnod o estyniad, wedi dod i ben ai peidio) pan fo wedi ei fodloni bod rhesymau da dros wneud hynny a phan fo’r person yn cydsynio i hynny.
(3) Ni chaiff estyniad, neu gyfanswm cyfnod yr estyniad pan fo mwy nag un, fod yn hwy na 2 flynedd sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y daeth y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) i ben, onid yw’n angenrheidiol yn rhinwedd paragraff (1).
(4) Rhaid i’r corff priodol, o fewn 10 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr estynnwyd y terfyn amser yn rheoliad 6A(1) o dan baragraff (1) neu (2), anfon hysbysiad ysgrifenedig o’r estyniad at—
(a) y person o dan sylw,
(b) pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol berthnasol neu goleg AB, y corff llywodraethu a’r pennaeth,
(c) pan fo’r person o dan sylw yn cael ei gyflogi mewn ysgol annibynnol, y perchennog a’r pennaeth,
(d) pan na fo’r person yn cael ei gyflogi gan y corff priodol, unrhyw gyflogwr arall (os nad oes hawl ganddo i gael hysbysiad o dan (b) neu (c)), ac
(e) y Cyngor.
(5) Ceir rhoi hysbysiad o dan baragraff (4) drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.”
6 
Yn rheoliad 7, hepgorer paragraff (2)(b) a’r “, neu” o’i flaen.
7 
Yn rheoliad 8—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “(3) a (4)” rhodder “(3), (4) ac (8)”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “neu”,
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “; neu”, a
(iii) ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—“
(f) pan fo paragraff (8) yn gymwys.”;
(c) ym mharagraff (4)(b) yn lle “ym mhob achos arall” rhodder “pan fo paragraff (3)(a), (b), (c) neu (e) yn gymwys”;
(d) ar y diwedd mewnosoder—“
(8) Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o un tymor ysgol neu 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau a grybwyllir yn adran 18 o Ddeddf 2014.”
8 
Yn rheoliad 13(4), yn lle “dri” rhodder “10”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Hydref 2022