
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 10 Hydref 2022.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “Rheoliadau 2018” (“the 2018 Regulations”) yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) 2018;
(b) mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
3 
Yn ddarostyngedig i reoliad 4, mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau eiddo preswyl—
(a) sydd â dyddiad cael effaith ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; a
(b) y mae Tabl 1 o’r Atodlen i Reoliadau 2018 yn gymwys iddynt.
4 
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad a bennir yn rheoliad 3—
(a) os yw’r prynwr yn gwneud dewis yn unol â rheoliad 6; a
(b) naill ai:
(i) y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ac a gyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022; neu
(ii) y rhoddir effaith i’r trafodiad yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo ond nas cyflawnwyd yn sylweddol cyn 10 Hydref 2022 ac nad yw wedi ei eithrio gan reoliad 5.
5 
Mae trafodiad wedi ei eithrio gan y rheoliad hwn os yw’n drafodiad a bennir yn rheoliad 3 y rhoddir effaith iddo yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo cyn 10 Hydref 2022 ac—
(a) pan geir unrhyw amrywiad i’r contract, neu pan aseinir hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022;
(b) pan roddir effaith i’r trafodiad o ganlyniad i arfer unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg ar neu ar ôl 10 Hydref 2022; neu
(c) pan geir, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, aseiniad, is-werthiant neu drafodiad arall yn ymwneud â’r cyfan neu ran o bwnc y contract, y caiff person heblaw’r prynwr o dan y contract hawl i alw am drosglwyddiad o ganlyniad iddo.
6 

(1) Rhaid i ddewis o dan reoliad 4—
(a) cael ei gynnwys mewn ffurflen dreth a gyflwynir i ACC mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno; a
(b) cydymffurfio ag unrhyw ofynion a bennir gan ACC ynghylch ei ffurf neu’r modd y caiff ei gynnwys.
(2) Ni chaiff prynwr ond gwneud dewis o dan reoliad 4 pan nad yw effaith dewis o’r fath yn arwain at godi mwy o dreth na fyddai wedi digwydd fel arall.
7 

(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(2) Yn lle Tabl 1 rhodder—“

Tabl 1
Band treth Y gydnabyddiaeth berthnasol Y gyfradd dreth ganrannol
Band cyfradd sero Nid mwy na £225,000 0%
Y band treth cyntaf Mwy na £225,000 ond nid mwy na £400,000 6%
Yr ail fand treth Mwy na £400,000 ond nid mwy na £750,000 7.5%
Y trydydd band treth Mwy na £750,000 ond nid mwy na £1,500,000 10%
Y pedwerydd band treth Mwy na £1,500,000 12%”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2022