
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo mewn Meddiannaeth Gyffredin) (Cymru) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2023.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” yn adran 64 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2 
Pan fo dau neu ragor o hereditamentau, pa un a ydynt yn yr un adeilad ai peidio, yn cael eu meddiannu gan yr un person, ac—
(a) mae’r hereditamentau yn bodloni’r amod cyffinio yn rheoliad 4, a
(b) ni chaiff yr un o’r hereditamentau ei ddefnyddio at ddiben sy’n hollol wahanol i’r diben y caiff unrhyw un o’r hereditamentau eraill ei ddefnyddio ato,rhaid trin yr hereditamentau fel un hereditament.
3 
Pan fo dau neu ragor o hereditamentau heb eu meddiannu, pa un a ydynt yn yr un adeilad ai peidio—
(a) yn eiddo i’r un person,
(b) yn bodloni’r amod cyffinio yn rheoliad 4,
(c) wedi peidio â chael eu meddiannu ar yr un diwrnod ac wedi ill dau barhau i fod heb eu meddiannu ers y diwrnod hwnnw, a
(d) yn union cyn y diwrnod hwnnw, roedd yr hereditamentau yn hereditament sengl, neu’n rhan o hereditament sengl o dan reoliad 2,rhaid trin yr hereditamentau fel un hereditament.
4 
Mae’r hereditamentau yn bodloni’r amod cyffinio—
(a) os yw o leiaf ddau o’r hereditamentau yn gyffiniol, a
(b) pan na fo pob un o’r hereditamentau yn cyffinio â’i gilydd—
(i) os yw un neu ragor o’r hereditamentau eraill yn cyffinio ag un neu ragor o’r hereditamentau sy’n dod o fewn paragraff (a), a
(ii) os yw pob un o’r hereditamentau sy’n weddill (os oes un) yn cyffinio ag o leiaf un hereditament sy’n dod o dan is-baragraff (i) neu’r is-baragraff hwn.
5 
Yn rheoliad 4 mae dau hereditament yn gyffiniol—
(a) os yw rhan neu’r cyfan o wal, ffens, neu ddull arall o amgáu un hereditament yn ffurfio rhan neu’r cyfan o wal, ffens, neu ddull arall o amgáu’r hereditament arall, neu
(b) os yw’r hereditamentau ar loriau nesaf at ei gilydd mewn adeilad, ac mae rhan neu’r cyfan o lawr un hereditament yn union uwchben rhan neu’r cyfan o nenfwd yr hereditament arall,ac ni chaiff hereditamentau a feddiennir gan yr un person neu sy’n eiddo i’r un person eu hatal rhag bod yn gyffiniol o dan baragraff (a) neu (b) dim ond am fod man rhyngddynt nas meddiennir gan y person hwnnw neu nad yw’n eiddo iddo.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2022