
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 a Dirymu Gorchymyn Cychwyn Rhif 3 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 4) 2021.
2 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;”“
 mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579 o Ddeddf 1996;”“
 ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;”.
(3) Yn erthygl 4, o flaen paragraff (a) mewnosoder—“
(za) sydd ym mlwyddyn 11;
(zb) nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;”.
(4) Yn erthygl 6, ar ôl “o fewn” mewnosoder “y naill neu’r llall o’r paragraffau yn”.
(5) Yn lle erthygl 7 rhodder—“
7. 
Person y mae cynllun datblygu unigol—
(a) yn cael ei lunio o dan adran 40 neu ei gadw o dan adran 42 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef;
(b) yn cael ei lunio neu ei gynnal o dan adran 14 o’r Ddeddf o ganlyniad i reoliad 23 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.”
3 
Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddirymu.
4 
Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 wedi ei ddirymu.
5 
Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021 wedi ei ddirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2021