
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhif 2) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
2 

(1) Mae’r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 1, mewnosoder—“
(ba) adran 48(1) i (5) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 14(2)—
(a) ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder “neu”;
(b) hepgorer is-baragraff (iii) a’r “neu” o’i flaen.
4 

(1) Mae Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Meintiau Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y lleoedd priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “DADYTA 2018” (“the ALNETA 2018”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”;“
 mae i “anghenion addysgol arbennig”, mewn perthynas â phlentyn y mae Pennod 1 o Ran 4 o DA 1996 yn parhau i fod yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o DA 1996;”;“
 mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”), mewn perthynas â phlentyn y mae Rhan 2 o DADYTA 2018 yn gymwys iddo, yr ystyr a roddir gan adran 2 o DADYTA 2018;”;“
 ystyr “plentyn sydd â chynllun datblygu unigol” (“child with an individual development plan”) yw plentyn y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag ef o dan Ran 2 o DADYTA 2018;”;
(b) yn y diffiniad o “addysg addas”, ar ôl “arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a) ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
2A. 
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blentyn sydd â chynllun datblygu unigol a dderbyniwyd i’r ysgol y tu allan i gylch derbyn arferol, o ganlyniad i enwi’r ysgol yng nghynllun datblygu unigol y plentyn o dan adran 48 o DADYTA 2018.”;
(b) ym mharagraff 14, ar ôl “addysgol arbennig” mewnosoder “neu anghenion dysgu ychwanegol (yn ôl y digwydd)”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “ysgol arbennig”, yn lle “337(1)” rhodder “337”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (2)(c)(iii);
(b) yn lle paragraff (2)(c)(iv) rhodder—“
(iv) pan gymeradwywyd yr ysgol o dan adran 347 o Ddeddf Addysg 1996 (cymeradwyo ysgolion annibynnol sy’n darparu addysg arbennig) cyn 1 Medi 2021 a’i bod yn parhau i fod wedi ei chymeradwyo yn union cyn y dyddiad hwnnw, awdurdod lleol sy’n talu’r ffioedd mewn cysylltiad â phresenoldeb disgybl cofrestredig yn yr ysgol y mae Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag ef; a
(v) pan fo gan ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gynllun datblygu unigol y mae’r ysgol wedi ei henwi ynddo o dan adran 14(6) neu 19(4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, yr awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun datblygu unigol o dan yr adran 14 neu 19 honno;”.
7 
O ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i Ddeddf Addysg 1996 gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, mae’r canlynol wedi eu dirymu o ran Cymru—
(a) Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994;
(b) Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994;
(c) Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) (Diwygio) 1998;
(d) Rheoliadau Addysg (Offer Peryglus mewn Ysgolion) (Dileu’r Cyfyngiadau ar Ddefnydd) (Cymru) 2017.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
10 Awst 2021