
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Diod (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Awst 2021.
2 
Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—“
15. 

(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 9(1)(h), ac Erthygl 9(1)(i) fel y’i darllenir gydag Erthygl 26(3)—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny, a
(b) pe na bai’r mater wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn dyddiad cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a
(b) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(4) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) neu Erthygl 36(2)(a) neu (b)—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a osodwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023, a
(b) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(5) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(6) Caniateir i gynhyrchion eraill y mae paragraff (4) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata hyd 31 Rhagfyr 2023.
(7) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cynnyrch gwin” (“wine product”) yw cynnyrch y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddolfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys iddo;
 ystyr “cynnyrch penodedig” (“specifiedproduct”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol, gan gynnwys cynnyrch gwin, sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwynt 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwydfel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
 ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).”
3 
Yn Rheoliadau Gwlad Tarddiad Cigoedd Penodol (Cymru) 2015, ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—“
7. 

(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag ail is-baragraff Erthygl 5(1), Erthygl 6 neu Erthygl 7—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a roddwyd ar y farchnad cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; a
(b) pe na bai’r mater sy’n fethiant honedig i gydymffurfio wedi methu â chydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag ail is-baragraff Erthygl 5(1), Erthygl 6 neu Erthygl 7—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch a roddwyd ar y farchnad ar 30 Medi 2022 neu cyn hynny;
(b) pe bai’r cynnyrch yn dwyn un o’r dangosiadau y darperir ar eu cyfer yn y darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; ac
(c) pe na bai defnyddio’r dangosiad yn fethiant i gydymffurfio â’r darpariaethau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 6(1) fel y’i darllenir gyda Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.”
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
28 Gorffennaf 2021