
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Ymarfer” yw’r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, y gosodwyd drafft ohono gerbron Senedd Cymru ar 24 Mawrth 2021 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 16 Gorffennaf 2021.
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Ymarfer ddod i rym yw 1 Medi 2021.
Lynne Neagle
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Gorffennaf 2021