
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ionawr 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y cyfnod perthnasol”, yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.
(3) Yn rheoliad 3(1), yn lle “1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021”.
(4) Yn rheoliad 4(1), yn lle “1 Chwefror 2021 ac sy’n dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac sy’n dod i ben ar 6 Mai 2021”.
(5) Yn rheoliad 5(1)(a), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) (Rhif 2) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) yn y diffiniad o “pleidlais ohiriedig”, yn lle “1 Chwefror 2021 ac yn dod i ben ar 16 Ebrill 2021” rhodder “1 Mawrth 2021 ac yn dod i ben ar 6 Mai 2021”, a
(b) yn y diffiniad o “y cyfnod perthnasol”, yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.
(3) Yn rheoliad 9(1), yn lle “31 Ionawr 2021” rhodder “28 Chwefror 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2021