
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 19 Gorffennaf 2021.
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli cyffredinol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” (“exempt country or territory”) yw—
(a) gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin;
(b) gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3,ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” (“non-exempt country or territory”) i’w ddehongli yn unol â hynny;;”;“
 mae i “teithiwr rheoliad 2A” (“regulation 2A traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A;”.
4 
Ar ôl rheoliad 2 (dehongli cyffredinol) mewnosoder—“
2A. 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr rheoliad 2A os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o baragraffau (3) i (6) o’r rheoliad hwn.
(2) Mae P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, ac eithrio un a restrir yn Atodlen 3A, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(3) Mewn perthynas â P—
(a) mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(b) cafodd y cwrs hwnnw o ddosau yn y Deyrnas Unedig,
(c) mae’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo y bodlonir y gofyniad yn is-baragraff (a), drwy bàs COVID y GIG neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, a
(d) mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).
(4) Mae P—
(a) wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004,
(b) yn gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw, ac
(c) wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1).
(5) Mae P—
(a) yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, a
(b) o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.
(6) Mae P naill ai—
(a) yn berson—
(i) sydd wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,
(ii) sy’n gallu darparu prawf os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo o’r gofynion ym mharagraff (i), a
(iii) sydd wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlynnau fel a ddisgrifir ym mharagraff (i) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), neu
(b) yn ddibynnydd i berson a ddisgrifir yn unrhyw un o baragraffau (a) i (c) o’r diffiniad o “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” ac o dan 18 mlwydd oed pan fo’n cyrraedd Cymru.
(7) At ddibenion paragraffau (3) a (6), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—
(a) yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu
(b) yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.
(8) At ddibenion paragraff (6), pan fo P wedi cael dos o frechlyn awdurdodedig yn y Deyrnas Unedig a dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod P wedi cael cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.
(9) At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sy’n gyfrifol amdano.
(10) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (yr awdurdod trwyddedu a’r Gweinidogion);
 mae i “awdurdodiad marchnata” yr ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (dehongli cyffredinol);
 ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—
(a) a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
(b) a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cyflenwi mewn ymateb i ymlediad cyfryngau pathogenig etc.);
 mae i “contractiwr y llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;
 mae i “cynnyrch meddyginiaethol” yr ystyr a roddir i “medicinal product” yn rheoliad 2 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 (cynhyrchion meddyginiaethol);
 “GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
 “GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;
 “GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 mae i “gwas y Goron” yr ystyr a roddir i “Crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989:
 ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;
 ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—
(a) gweision y Goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu,
(b) preswylwyr y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, fel rhan o raglen y cytunwyd arni yn y diriogaeth dramor gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig, neu
(c) personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;
 mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004.”
5 

(1) Mae rheoliad 6AB (gofyniad i archebu a chymryd profion) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)(c), o flaen paragraff (i) mewnosoder—“
(ai) rheoliad 6L;”.
(3) Ym mharagraff (2)(d), yn lle paragraff (ii) rhodder—“
(ii) archeb ar gyfer prawf diwrnod 2 mewn cysylltiad ag—(aa) person (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth esempt a restrir yn Atodlen 3 o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru;(bb) teithiwr rheoliad 2A.”
6 

(1) Mae rheoliad 6DB (gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r pennawd rhodder “Gofyniad i ynysu o fethu â chymryd profion: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “a restrir yn Atodlen 3” rhodder “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin”.
7 

(1) Mae rheoliad 6HB (goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r pennawd rhodder “Goblygiadau cael canlyniad prawf amhendant: teithwyr o wledydd a thiriogaethau esempt a theithwyr rheoliad 2A”.
(3) Ym mharagraff (3), yn lle “a restrir yn Atodlen 3” rhodder “y tu allan i’r ardal deithio gyffredin”.
8 

(1) Mae rheoliad 6K (profi’r gweithlu) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—
(a) sy’n cyrraedd Cymru,
(b) sydd, o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac
(c) sy’n berson a bennir yn—
(i) paragraff 6 o Atodlen 2, neu
(ii) rheoliad 12E(2)(g).”
(3) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i P gymryd prawf gweithlu ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (6)—
(a) pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu
(b) pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.”
(4) Ym mharagraff (2), ar y dechrau mewnosoder “Pan na fo paragraff (1A) yn gymwys,”.
(5) Ym mharagraff (6)(b), ar ôl “yw prawf” mewnosoder “ar gyfer canfod y coronafeirws”.
9 
Ar ôl rheoliad 6K (profi’r gweithlu) mewnosoder—“
6L. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n 5 oed neu drosodd—
(a) sy’n cyrraedd Cymru,
(b) sydd wedi bod y tu allan i’r ardal deithio gyffredin o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
(c) sy’n berson perthnasol mewn digwyddiad penodedig.
(2) Rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 yn unol â pharagraff (9)—
(a) pan fo P yn deithiwr rheoliad 2A, neu
(b) pan na fo P wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru.
(3) Pan na fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i P gymryd prawf digwyddiad ar gyfer diwrnod 2 a diwrnod 8 yn unol â pharagraff (9) mewn perthynas â phob categori o brawf.
(4) Pan na fo P yn cymryd prawf digwyddiad fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf digwyddiad arall.
(5) Pan fo prawf digwyddiad arall wedi ei gymryd yn lle—
(a) prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 2, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn;
(b) prawf digwyddiad sydd i’w gymryd ar gyfer diwrnod 8, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf digwyddiad ar ddiwrnod 8 yn unol â’r rheoliad hwn.
(6) Mae rheoliadau 6DA i 6HB yn gymwys i berson sy’n ddarostyngedig i’r rheoliad hwn fel pe bai—
(a) cyfeiriadau at reoliad 6AB a 6AB(1) yn gyfeiriadau at reoliad 6L a 6L(1) yn y drefn honno;
(b) cyfeiriadau at brawf diwrnod 2 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2;
(c) cyfeiriadau at brawf diwrnod 8 yn gyfeiriadau at brawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8;
(d) y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6DB(5)—“
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.”;
(e) y canlynol wedi ei roi yn lle rheoliad 6HA(5)—“
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i brawf digwyddiad arall.”
(7) Pan fo prawf digwyddiad yn cynhyrchu canlyniad amhendant, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gymryd prawf digwyddiad pellach ac mae’r prawf digwyddiad pellach hwnnw i’w drin fel prawf digwyddiad arall.
(8) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am drefnu digwyddiad penodedig—
(a) cymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd profion digwyddiadau gan berson perthnasol mewn perthynas â’r digwyddiad penodedig y mae’n gyfrifol amdano;
(b) rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion is-baragraff (a).
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “digwyddiad penodedig” (“a specified event”) yw digwyddiad a restrir yn Atodlen 1E;
 ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) mewn perthynas â digwyddiad penodedig yw—
(a) person sy’n cyfranogi yn y digwyddiad i ennill bywoliaeth;
(b) unigolyn sy’n hanfodol i redeg y digwyddiad, gan gynnwys—
(i) staff gweithredol syʼn hanfodol i redeg y digwyddiad;
(ii) swyddogion y digwyddiad;
(iii) dyfarnwyr;
(iv) staff darlledu a newyddiadurwyr syʼn rhoi sylw i’r digwyddiad;
(c) unigolyn sy’n hanfodol i gefnogi person a ddisgrifir ym mharagraff (a), gan gynnwys—
(i) staff meddygol, logistaidd, technegol a gweinyddol;
(ii) rhiant neu ofalwr person o’r fath, pan fo’r person hwnnw o dan 18 oed;
 ystyr “prawf digwyddiad” (“an event test”) yw prawf ar gyfer canfod y coronafeirws;
 ystyr “prawf digwyddiad arall” (“a replacement event test”) yw prawf digwyddiad sy’n cydymffurfio â’r gofynion sy’n gymwys i’r prawf digwyddiad nas cynhaliwyd neu a ddarparodd ganlyniad amhendant;
 ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 2” (“an event test undertaken for day 2”) yw prawf sy’n cael ei gymryd yn ddim hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;
 ystyr “prawf digwyddiad a gymerir ar gyfer diwrnod 8” (“an event test undertaken for day 8”) yw prawf digwyddiad sy’n cael ei gymryd cyn diwedd yr wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.
(10) Yn y rheoliad hwn, wrth ystyried a yw person yn ennill bywoliaeth o gyfranogi mewn digwyddiad, mae unrhyw daliad a wneir er budd person o ganlyniad i’w gyfranogiad i’w gymryd i ystyriaeth, gan gynnwys taliad ar ffurf cyflog, arian gwobrwyo neu drwy drefniant contractiol o unrhyw fath arall.”
10 

(1) Mae rheoliad 9 (gofynion ynysu: esemptiadau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Mae paragraff (1) wedi ei hepgor.
(3) Yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Nid yw rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i—
(a) person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (k) o Atodlen 2 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;
(b) person a ddisgrifir ym mharagraffau 2 i 5, 6A i 16 a 36 o Atodlen 2;
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (3), person a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (3), person a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2)(a) i (d) (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A);
(e) teithiwr rheoliad 2A.”
11 

(1) Mae rheoliad 14 (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (i), hepgorer “neu”;
(b) yn is-baragraff (j), ar ôl “6K,” mewnosoder “neu”;
(c) ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder—“
(k) 6L,”.
(3) Ym mharagraff (1B), yn lle “neu 6K” rhodder “, 6K neu 6L”.
(4) Ym mharagraff (1E), yn lle “rheoliad 6K” rhodder “rheoliadau 6K a 6L o ran cymryd profion”.
12 
Yn rheoliad 16 (hysbysiadau cosb benodedig), ym mharagraff (6AC), ar ôl “6K,” mewnosoder “neu yn rheoliad 14(1)(k) am dorri gofyniad yn rheoliad 6L,”.
13 
Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
3. 
Pan fo’r teithiwr yn bwriadu manteisio ar esemptiad fel teithiwr rheoliad 2A, y ffaith bod y teithiwr wedi ei frechu neu’n dod o fewn un o’r categorïau esemptiad eraill o fewn rheoliad 2A.”
14 
Ar ôl Atodlen 1D mewnosoder—“
ATODLEN 1E
Rheoliad 6L


 Cylchdaith Golff Ewrop – Pencampwriaeth Agored Cazoo
”.
15 

(1) Mae Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1—
(a) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“Bwlgaria”“Croatia”“Hong Kong”“Taiwan”;
(b) hepgorer “Ynysoedd Baleares”.
(3) Yn Rhan 2, hepgorer “Ynysoedd Prydeinig y Wyryf”.
16 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“Cuba”“Indonesia”“Myanmar”“Sierra Leone”.
17 
Mae’r Atodlen i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn lle Rhan 1 rhodder—“
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—“Essential information to enter Wales from overseasEveryone entering Wales from overseas (including UK nationals and residents) must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to Wales.Fill in your passenger locator form up to 48 hours before arrival. You must declare all countries you have visited or transited through in the 10 days prior to your arrival in the UK on your passenger locator form.Before departure, check the list of red, amber and green countries as the list can change regularly.Red list passengers1. Book a Managed Quarantine Package 2. Complete a passenger locator formYou can only enter if you are a British or Irish National, or you have residence rights in the UK. You must enter through a designated port and quarantine in a government approved hotel for 10 days. Amber list passengers1. Book tests for day 2 and 82. Complete a passenger locator form3. Make plans to self-quarantine in private accommodation for 10 full days after arrival (or full duration of stay if less than 10 days).If you are arriving from an amber country, and have been fully vaccinated through an approved vaccination programme, at least 14 days before your arrival in Wales, you must: 1. Book a test for day 22. Complete a passenger locator formGreen list passengers1. Book a test for day 22. Complete a passenger locator formThese measures apply to all persons (including UK nationals and residents) arriving in Wales from outside the common travel area comprising the United Kingdom, Ireland, the Isle of Man, and the Channel Islands. The British Overseas Territories are not in the common travel area. Public health requirements may vary depending upon in which nation of the UK you are staying.England: https://www.gov.uk/uk-border-controlNorthern Ireland: https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-international-travel-adviceScotland: https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine/pages/overview/Wales: https://gov.wales/travelrulesFailure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. Check the list of exemptions carefully. You may be fined if you fraudulently claim an exemption.;”
”;
(b) yn Rhan 2—
(i) ym mharagraff (a) (y fersiwn Gymraeg), ar ôl “o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd” mewnosoder “, hyd yn oed os ydych wedi eich brechu yn llawn”;
(ii) ym mharagraff (b) (y fersiwn Saesneg), ar ôl “within the first two days after you arrive” mewnosoder “, even if you have been fully vaccinated”.
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.49 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021