
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16(1)—
(a) o dan bennawd “Cam 2”, ar ôl “coronafeirws” mewnosoder “, gan gynnwys gwybodaeth i’r rheini sy’n gweithio yn y fangre ynglŷn â’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a nodir o dan yr asesiad a gynhelir o dan Gam 1, a’r mesurau sydd i’w cymryd o dan Gam 3 a Cham 4 i leihau’r risg”;
(b) o dan bennawd “Cam 3”—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “bersonau” mewnosoder “o dan do”;
(ii) yn is-baragraff (b), ar ôl “aros” rhodder “o dan do”;
(c) o dan bennawd “Cam 4”—
(i) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yn agos at ei gilydd” rhodder “yn y fangre”;
(ii) yn is-baragraff (c), yn y geiriau o flaen paragraff (i)—(aa) yn lle “agos wyneb yn wyneb” rhodder “corfforol agos”;(bb) ar ôl “fangre” mewnosoder “, yn benodol rhyngweithio wyneb yn wyneb”.
(3) Yn rheoliad 17(4A)—
(a) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “Nid yw is-baragraffau (b)(i) a (ii) o baragraff (1)” rhodder “Nid yw paragraff (1)(b)”;
(b) yn is-baragraff (b), hepgorer “sy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored”.
(4) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 1—
(i) yn lle is-baragraff (1) rhodder—“
(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad o dan do mewn annedd breifat sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—
(a) bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(b) pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(ii) hepgorer is-baragraff (1A);
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1A)” rhodder “(1)”;(bb) ym mharagraff (a), yn lle “30 o aelwydydd” rhodder “6 aelwyd”;
(iv) hepgorer is-baragraff (5)(d);
(b) ym mharagraff 2—
(i) yn lle is-baragraff (1) rhodder—“
(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do ac eithrio mewn annedd breifat neu mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.”;
(ii) yn lle is-baragraff (1A) rhodder—“
(1A) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl oni bai—
(a) bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(b) pan na fo’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, fod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(iii) hepgorer is-baragraff (1B);
(iv) yn is-baragraff (2)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1B)” rhodder “(1A)”;(bb) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) unrhyw blant o dan 11 oed, cyhyd â bod y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (gan gynnwys unrhyw blant o dan 11 oed) yn dod o ddim mwy na 6 aelwyd, neu”;
(v) yn is-baragraff (5)—(aa) yn lle paragraff (i) rhodder—“
(i) cymryd rhan mewn cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio, yn mynd i gynulliad neu ddigwyddiad o’r fath neu’n hwyluso cynulliad neu ddigwyddiad o’r fath;”;(bb) hepgorer paragraffau (j) a (k);(cc) ym mharagraff (ka)—i yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “blant ysgol gynradd” rhodder “ddim mwy na 30 o blant”;ii yn lle paragraff (i) rhodder—“
(i) cynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);”;
(vi) hepgorer is-baragraff (6);
(c) ym mharagraff 4—
(i) yn is-baragraff (1)—(aa) ym mharagraff (a), ar y diwedd mewnosoder “a”;(bb) hepgorer paragraff (b), gan gynnwys yr “ac” ar y diwedd;(cc) ym mharagraff (c), ar y dechrau mewnosoder “pan fo’r digwyddiad yn cael ei gynnal i unrhyw raddau o dan do,”;
(ii) yn is-baragraff (1A)—(aa) ym mharagraff (a), yn lle “10000” rhodder “1000”;(bb) ym mharagraff (b), yn lle “4000” rhodder “200”;
(iii) yn is-baragraff (2)—(aa) hepgorer paragraffau (f) ac (ga);(bb) ym mharagraff (k), yn lle “lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.” rhodder“—
(i) lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol,
(ii) lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, neu
(iii) pan na fo’r holl bersonau sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig, lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o ddim mwy na 2 aelwyd.”;
(d) ym mharagraff 7(1), yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “, 10 neu 11” rhodder “neu 10”;
(e) hepgorer paragraff 11.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 3.51 p.m. ar 16 Gorffennaf 2021