
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “y cyfnod graddoli trosiannol” yr ystyr a roddir i “the transitional staging period” yn Atodiad 6 i’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;”.
(3) Yn rheoliad 26(3), yn lle “dydd ar 31 Gorffennaf 2021” rhodder “cyfnod graddoli trosiannol”.
(4) Yn Atodlen 5—
(a) ym mharagraff 5(3), yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
(b) ym mharagraff 6(1)(c)—
(i) yn lle “31 Gorffennaf 2021” rhodder “1 Hydref 2021”;
(ii) ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
14 Gorffennaf 2021