
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 16 Awst 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2012” yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.
2 

(1) Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2) hepgorer “, newid neu estyn”.
(3) Ym mharagraff (3) yn lle “unrhyw gais o’r fath” rhodder “gais o dan baragraff (2)”.
(4) Hepgorer paragraff (5).
(5) Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(8) Pan fo’n ofynnol i awdurdod cynllunio lleol gael caniatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn ei ardal ni chaniateir i’r cais gael ei benderfynu gan—
(a) pwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod cynllunio lleol os yw’r pwyllgor neu’r is-bwyllgor hwnnw’n gyfrifol (yn llwyr neu’n rhannol) am reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, neu
(b) swyddog i’r awdurdod cynllunio lleol os yw ei gyfrifoldebau’n cynnwys unrhyw agwedd ar reoli unrhyw adeilad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(9) Pan fo cais am ganiatâd adeilad rhestredig i newid neu estyn adeilad rhestredig yn cael ei wneud gan awdurdod cynllunio lleol a phan mai’r awdurdod hwnnw sy’n penderfynu ar y cais am ganiatâd adeilad rhestredig, ni fydd adran 20 o’r Ddeddf (hawl i apelio yn erbyn penderfyniad neu fethiant i wneud penderfyniad) yn gymwys.”
3 
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gais a wneir yn unol â rheoliad 9(2) o Reoliadau 2012 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2021