
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2021.
2 
Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007, o flaen “mae “addysg”” mewnosoder rhif paragraff “(1)”.
3 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 46 (myfyrwyr sy’n preswylio gyda’u rhieni)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “(“A” yn y paragraff hwn)” rhodder “(“A” yn y rheoliad hwn)”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo A yn preswylio yng nghartref rhieni A am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff A ei drin fel pe na bai A yn preswylio yng nghartref rhieni A.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys pan fo A yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn ei drin fel pe bai’n preswylio yng nghartref ei rieni.”
5 
Yn rheoliad 52 (dehongli Rhan 6), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(fa) ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);”
6 
Yn rheoliadau 49(2)(h) a 111(2)(e) yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson”.
7 
Yn Atodlen 1—
(a) yn nhestun Cymraeg paragraff 1(5)(b) yn lle’r atalnod llawn rhodder “; ac”;
(b) yn nhestun Saesneg paragraff 11A(a) yn lle “agreements” rhodder “agreement”.
8 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
9 
Yn rheoliad 86 (myfyrwyr sy’n byw mewn mwy nag un lleoliad), ar y diwedd mewnosoder—“
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo myfyriwr cymwys yn byw gartref am reswm nad yw ond yn ymwneud â’r coronafeirws, caiff y myfyriwr cymwys ei drin fel pe bai’n byw yn y categori o leoliad y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’r myfyriwr cymwys wedi bod yn byw ynddo oni bai am y rheswm hwnnw.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys wedi gofyn am gael ei drin fel pe bai’n byw gartref.”
10 
Yn lle “y person yn dod yn berson” rhodder “y myfyriwr yn dod yn berson” lle y mae’n digwydd yn—
(a) rheoliad 80(2)(b)(v);
(b) rheoliad 81(3)(b)(iv);
(c) Atodlen 4, paragraff 14(3)(b)(iv); a
(d) Atodlen 5, paragraff 4(2)(e).
11 
Yn nhestun Cymraeg Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019, ym mharagraff 7A(1)(d) yn lle “fer” rhodder “fel”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
7 Gorffennaf 2021