
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 30 Mehefin 2021.
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin)—
(a) yn Rhan 1, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Antigua a Barbuda
 Barbados
 Dominica
 Grenada
 Madeira
 Malta
 Ynysoedd Baleares”;
(b) yn Rhan 2, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Anguilla
 Antarctica/Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
 Bermuda
 Montserrat
 Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India
 Ynysoedd Cayman
 Ynysoedd Pitcairn
 Ynysoedd Prydeinig y Wyryf
 Ynysoedd Turks a Caicos”.
4 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Eritrea
 Gweriniaeth Dominica
 Haiti
 Mongolia
 Tunisia
 Uganda”.
5 
Yn lle Rhan 2 o’r Atodlen i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (gwybodaeth a ddarperir yn ystod taith), rhodder—“
Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a) y fersiwn Gymraeg—“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoedd y Deyrnas Unedig.Pa mor hir bynnag yr ydych yn bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig, rhaid i bawb gymryd prawf COVID-19 a archebwyd ymlaen llaw o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd. Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch neu oren, neu wedi tramwyo drwy unrhyw wledydd o’r fath, rhaid ichi hefyd gymryd prawf arall a archebwyd ymlaen llaw 8 niwrnod ar ôl ichi gyrraedd.Os ydych wedi bod mewn gwlad oren neu goch o fewn y 10 niwrnod diwethaf, neu wedi tramwyo drwy wlad o’r fath, rhaid ichi fynd i gwarantin am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd.Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi.Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.”
(b) y fersiwn Saesneg—“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.However long you intend to stay in the UK, everyone must take a pre-booked COVID-19 test within the first two days after you arrive. If you have been in or transited through any countries on the red or amber list you must also take another pre-booked test 8 days after arrival.If you have been in or transited through an amber or red country within the previous 10 days you must quarantine for the first 10 days after you arrive.The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.Please follow the Public Health guidance for the area you are living or travelling in.Visit gov.uk/coronavirus for more advice.”;
(c) y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.
”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2021