
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2021.
2 
At ddibenion adran 82 (tenantiaethau busnes yng Nghymru a Lloegr: gwarchodaeth rhag fforffediad etc.) o Ddeddf y Coronafeirws 2020, mae’r “relevant period”, fel y’i diffinnir yn is-adran (12) o’r adran honno yn gorffen, o ran Cymru, â 30 Medi 2021.
3 
Mae Rheoliadau Tenantiaethau Busnes (Estyn Gwarchodaeth rhag Fforffediad etc.) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 wedi eu dirymu.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2021