
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Chwefror 2021 ac maent yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2021, pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
RHAN 2
PENNOD 1
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3 
Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—
(a) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a) £31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b) y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i) yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b) ym mharagraff (6), yn lle “baragraffau (7) ac (8)” rhodder “baragraff (8)”;
(c) hepgorer paragraff (7);
(d) ym mharagraff (8), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd”.
4 
Yn rheoliad 71 (grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl)—
(a) yn lle paragraff (8) rhodder—“
(8) Rhaid i swm y grant o dan y rheoliad hwn beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a) £31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b) y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i) yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b) ym mharagraff (9), yn lle “baragraffau (10) ac (11)” rhodder “baragraff (11)”;
(c) hepgorer paragraff (10);
(d) ym mharagraff (11), yn lle “mharagraff (8)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 65(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (8)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 65(4) yn digwydd”.
5 
Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl)—
(a) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a) £31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b) y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i) yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;
(c) hepgorer paragraff (5);
(d) ym mharagraff (6), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 82(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 82(4) yn digwydd”.
6 
Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), ym mharagraff (8), yn lle “117(3)(c)(ii)” rhodder “117(2)(b)(ii)”.
7 
Yn rheoliad 117 (swm y grant)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a) £31,831 mewn perthynas â gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr; a
(b) y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i) yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, ar unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr y “mathau o wariant cymwys” yw’r gwariant a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) a (b).”;
(c) ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;
(d) hepgorer paragraff (5);
(e) ym mharagraff (6), yn lle “at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “at y dibenion a bennir ym mharagraff (2)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd”.
PENNOD 2
8 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 9 i 12.
9 
Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—Achos 1Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.Achos 2Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a) o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b) o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.”
10 
Yn rheoliad 85 (talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau)—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “baragraffau (4) a (5)” rhodder “baragraff (5)”;
(b) hepgorer paragraff (4).
11 
Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)—
(a) ym mharagraff 14(2), yn lle “chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd”;
(b) ym mharagraff 18(6)(d), yn lle “un o’r dibenion” rhodder “math o wariant”;
(c) ym mharagraff 20—
(i) yn lle is-baragraff (1) rhodder—“
(1) Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a) y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b) nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn is-baragraff (2).”;
(ii) yn lle is-baragraff (2) rhodder—“
(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—Achos 1Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.Achos 2Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a) o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b) o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.”
12 
Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 16 hepgorer—
(a) ““gwariant cymwys” (mewn perthynas â grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)” yn y golofn gyntaf, a
(b) y cofnod cyfatebol “Atodlen 4, paragraff 20(2)” yn yr ail golofn.
RHAN 3
PENNOD 1
13 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 14 i 25.
14 
Yn rheoliad 16 (grant newydd at ffioedd)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£4,530” rhodder “£4,395”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£4,470” rhodder “£4,605”;
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£2,340” rhodder “£2,270”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£2,160” rhodder “£2,230”.
15 
Yn rheoliad 19 (benthyciad newydd at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£4,470” rhodder “£4,605”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£2,160” rhodder “£2,230”.
16 
Yn rheoliad 26 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant ar gyfer dibynyddion mewn oed), ym mharagraff (3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”.
17 
Yn rheoliad 27 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—
(a) ym mharagraff (7)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£174.22” rhodder “£179.62”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£298.69” rhodder “£307.95”;
(b) ym mharagraff (9)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.81”.
18 
Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – lwfans dysgu ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,766” rhodder “£1,821”.
19 
Yn rheoliad 43 (uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu’n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy’n ymgymryd â’u blwyddyn gyntaf o astudio)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (i), yn lle “£5,848” rhodder “£6,027”;
(ii) yn is-baragraff (ii), yn lle “£10,584” rhodder “£10,907”;
(iii) yn is-baragraff (iii), yn lle “£9,008” rhodder “£9,283”;
(iv) yn is-baragraff (iv), yn lle “£9,008” rhodder “£9,283”;
(v) yn is-baragraff (v), yn lle “£7,555” rhodder “£7,786”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (i), yn lle “£5,295” rhodder “£5,457”;
(ii) yn is-baragraff (ii), yn lle “£9,638” rhodder “£9,932”;
(iii) yn is-baragraff (iii), yn lle “£7,835” rhodder “£8,074”;
(iv) yn is-baragraff (iv), yn lle “£7,835” rhodder “£8,074”;
(v) yn is-baragraff (v), yn lle “£6,999” rhodder “£7,213”.
20 
Yn rheoliad 45 (myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol)—
(a) ym mharagraff (1), is-baragraff (a)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,777” rhodder “£2,862”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£5,204” rhodder “£5,363”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£3,702” rhodder “£3,815”;
(b) ym mharagraff (1), is-baragraff (b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,777” rhodder “£2,862”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£5,204” rhodder “£5,363”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£4,428” rhodder “£4,563”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£3,702” rhodder “£3,815”;
(c) ym mharagraff (1), is-baragraff (c)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£4,386” rhodder “£4,520”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£7,938” rhodder “£8,180”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£6,756” rhodder “£6,962”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£6,756” rhodder “£6,962”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£5,666” rhodder “£5,840”;
(d) ym mharagraff (2), is-baragraff (a)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,111” rhodder “£2,175”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£3,980” rhodder “£4,102”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;
(e) ym mharagraff (2), is-baragraff (b)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£2,111” rhodder “£2,175”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£3,980” rhodder “£4,102”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£3,237” rhodder “£3,336”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£3,237” rhodder “£3,336”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£2,885” rhodder “£2,973”;
(f) ym mharagraff (2), is-baragraff (c)—
(i) ym mharagraff (i), yn lle “£3,971” rhodder “£4,093”;
(ii) ym mharagraff (ii), yn lle “£7,228” rhodder “£7,449”;
(iii) ym mharagraff (iii), yn lle “£5,876” rhodder “£6,056”;
(iv) ym mharagraff (iv), yn lle “£5,876” rhodder “£6,056”;
(v) ym mharagraff (v), yn lle “£5,249” rhodder “£5,410”.
21 
Yn rheoliad 50 (codiadau yn yr uchafswm), ym mharagraff (1)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£86” rhodder “£89”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£167” rhodder “£172”;
(c) yn is-baragraff (c), yn lle “£182” rhodder “£188”;
(d) yn is-baragraff (d), yn lle “£182” rhodder “£188”;
(e) yn is-baragraff (e), yn lle “£131” rhodder “£135”.
22 
Yn rheoliad 56 (cymhwyso’r cyfraniad)—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£4,147” rhodder “£4,520”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£7,505” rhodder “£8,180”;
(iii) yn is-baragraff (c), yn lle “£6,388” rhodder “£6,962”;
(iv) yn is-baragraff (d), yn lle “£6,388” rhodder “£6,962”;
(v) yn is-baragraff (e), yn lle “£5,357” rhodder “£5,840”;
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£3,755” rhodder “£4,093”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£6,834” rhodder “£7,449”;
(iii) yn is-baragraff (c), yn lle “£5,556” rhodder “£6,056”;
(iv) yn is-baragraff (d), yn lle “£5,556” rhodder “£6,056”;
(v) yn is-baragraff (e), yn lle “£4,963” rhodder “£5,410”.
23 
Yn rheoliad 91 (grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed), ym mharagraff (3)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle “£3,094” rhodder £3,190”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “£3,094” rhodder “£3,190”.
24 
Yn rheoliad 92 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—
(a) ym mharagraff (6)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “£174.22” rhodder “£179.62”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “£298.69” rhodder “£307.95”;
(b) ym mharagraff (8)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.31”.
25 
Yn rheoliad 93 (lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni), ym mharagraff (2), yn lle “£1,766” rhodder “£1,821”.
PENNOD 2
26 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 27 i 34.
27 
Yn rheoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser), yn lle Tabl 7 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Blwyddyn academaidd Categori o fyfyriwr Lleoliad y myfyriwr Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr llawnamser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 Categori 1 Byw gartref £6,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £10,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £8,000
Categori 2 Byw gartref £3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 Categori 1 Byw gartref £6,840
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £10,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £8,225
Categori 2 Byw gartref £3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 Categori 1 Byw gartref £7,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £11,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £8,810
Categori 2 Byw gartref £3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 Categori 1 Byw gartref £7,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £11,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,350
Categori 2 Byw gartref £3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,675”.
28 
Yn rheoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)—
(a) yn lle Tabl 8 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Blwyddyn academaidd Lleoliad y myfyriwr Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 Byw gartref £7,650
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £11,250
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 Byw gartref £7,840
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £11,530
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,225
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 Byw gartref £8,335
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £12,260
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,810
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 Byw gartref £8,790
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £12,930
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £10,350”;
(b) yn lle Tabl 8A rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Blwyddyn academaidd Lleoliad y myfyriwr Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwyy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 Byw gartref £3,325
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,125
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,000
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 Byw gartref £3,420
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,265
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,110
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 Byw gartref £3,665
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,630
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,405
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 Byw gartref £3,895
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,965
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,675”.
29 
Yn rheoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig), yn lle Tabl 9 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Blwyddyn academaidd Lleoliad y myfyriwr Cynnydd wythnosol yn swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 Byw gartref £80
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £153
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £120
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 Byw gartref £84
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £162
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £127
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 Byw gartref £86
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £167
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £131
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 Byw gartref £89
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £172
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £135”.
30 
Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), yn lle Tabl 10 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Blwyddyn academaidd Uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr rhan-amser
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 £5,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 £5,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 £6,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 £6,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”.
31 
Yn rheoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig), yn lle Tabl 10A rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Blwyddyn academaidd Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019 £6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2019 ond cyn 1 Medi 2020 £6,815 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 £7,245 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 £7,640 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio”.
32 
Yn rheoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol), yn lle Tabl 11 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Blwyddyn academaidd Uchafswm y grant oedolion dibynnol
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020 £2,732
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 £3,094
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 £3,190”.
33 
Yn rheoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni), yn lle Tabl 12 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2
Blwyddyn academaidd Uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020 £1,557
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 £1,766
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 £1,821”.
34 
Yn rheoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant)—
(a) yn lle Tabl 13 rhodder—“

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Blwyddyn academaidd Nifer y plant dibynnol Uchafswm wythnosol
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2020 Un plentyn dibynnol £161.50
Mwy nag un plentyn dibynnol £274.55
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2020 ond cyn 1 Medi 2021 Un plentyn dibynnol £174.22
Mwy nag un plentyn dibynnol £298.69
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 Un plentyn dibynnol £179.62
Mwy nag un plentyn dibynnol £307.95”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£134.70” rhodder “£138.31”.
PENNOD 3
35 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 36.
36 
Yn rheoliad 13 (swm benthyciad at radd ddoethurol ôl-raddedig)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£26,445” rhodder “£27,265”;
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle “£26,445” rhodder “£27,265”.
PENNOD 4
37 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 38 a 39.
38 
Yn rheoliad 31 (swm y benthyciad cyfrannu at gostau)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”;
(b) ym mharagraff (3)(b), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”.
39 
Yn rheoliad 36 (effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys)—
(a) ym mharagraff (8), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”;
(b) ym mharagraff (10), yn lle “£16,489” rhodder “£17,025”.
RHAN 4
PENNOD 1
40 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 41 i 43.
41 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—“
 mae i “Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” (“Higher Education Classification of Subjects”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);”;“
 mae i “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” (“Common Aggregation Hierarchy”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 81(29);”.
42 
Yn rheoliad 81 (myfyrwyr rhan-amser cymwys)—
(a) yn lle paragraff (28) rhodder—“
(28) Mae cwrs wedi ei bennu at ddiben paragraff (27)—
(a) os yw’n ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni;
(b) os yw’n gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 7; neu
(c) os yw’r cwrs wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1 Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin Cod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02) 
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03) 
Seicoleg (CAH04) 
Milfeddygaeth (CAH05) 
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06) 
Y gwyddorau ffisegol (CAH07) (100392) Gwyddoniaeth gymhwysol(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol(100391) Y gwyddorau naturiol
Y gwyddorau mathemategol (CAH09) 
Peirianneg a thechnoleg (CAH10) 
Cyfrifiadura (CAH11)  ”;
(b) yn lle paragraff (29) rhodder—“
(29) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
43 
Yn Atodlen 7 (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—
(a) yn lle’r cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81” rhodder “paragraff (28)(b) o reoliad 81”;
(b) ar ôl y cyfeiriad at “paragraff (28)(c) o reoliad 81.” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (29) o reoliad 81.”;
(c) yn lle Tabl 1 rhodder—“

Cod DPAU Label DPAU
100706 Gwallt a cholur
101374 Gwasanaethau trin gwallt
100131 Radioleg
100456 Astudiaethau plentyndod
100302 Hanes
100337 Athroniaeth
100621 Astudiaethau rhywedd
101233 Astudiaethau diwylliannol
100986 Rheoli adnoddau dŵr
100807 Rheoli treftadaeth
101091 Astudiaethau cwaternaidd
101078 Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079 Hydroleg
101072 Rheoli llygredd
100381 Y gwyddorau amgylcheddol
101070 Newid hinsawdd
101067 Priddeg
101394 Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408 Daearyddiaeth amgylcheddol
101352 Bioddaearyddiaeth
101065 Daearyddiaeth arforol
101064 Geomorffoleg
100410 Daearyddiaeth ffisegol
101058 Y gwyddorau mapio
101056 Synhwyro o bell
100369 Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052 Ergonomeg
101104 Daeareg gymhwysol
101351 Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd
100379 Gwyddor hinsawdd
100394 Gwyddorau’r ddaear
101106 Daeareg beirianyddol
100380 Gwyddorau daear amgylcheddol
101093 Daeareg archwilio
101084 Geoffiseg archwilio
101083 Geocemeg
101082 Peryglon daearegol
101086 Eigioneg ddaearegol
100395 Daeareg
100396 Geoffiseg
101089 Hydroddaeareg
101073 Hydrograffeg
100418 Gwyddorau’r môr
100382 Meteoroleg
100421 Gwyddorau eigion
100398 Palaeontoleg
101105 Daeareg betrolewm
101081 Fwlcanoleg”.
PENNOD 2
44 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 45 i 47.
45 
Yn rheoliad 25 (myfyrwyr rhan-amser – cyfyngiadau ar gymorth i raddedigion)—
(a) ym mharagraff (2), yn lle Achos 3 rhodder—“Achos 3Mae’r cwrs presennol yn arwain at radd anrhydedd ac—
(a) yn ymwneud ag astudio hanes a gramadeg y Gymraeg a’r defnydd ohoni,
(b) yn gwrs y mae ei god a’i label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu rhestru yn Atodlen 5A, neu
(c) wedi ei restru yn y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch yn un o grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin yng Ngholofn 1 o Dabl A1 ac eithrio ar gyfer y pynciau hynny y mae eu cod a’u label o dan y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch wedi eu pennu yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2.

Tabl A1
Colofn 1 Colofn 2
Grwpiau’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin Cod a label Pynciau a eithrir
Pynciau perthynol i feddygaeth (CAH02) 
Y gwyddorau biolegol a’r gwyddorau chwaraeon (CAH03) 
Seicoleg (CAH04) 
Milfeddygaeth (CAH05) 
Amaethyddiaeth, bwyd ac astudiaethau cysylltiedig (CAH06) 
Y gwyddorau ffisegol (CAH07) (100392) Gwyddoniaeth gymhwysol(100390) Gwyddoniaeth gyffredinol(100391) Y gwyddorau naturiol
Y gwyddorau mathemategol (CAH09) 
Peirianneg a thechnoleg (CAH10) 
Cyfrifiadura (CAH11)  ”;
(b) yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn Achos 3, ystyr “Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” yw fersiwn 1.3.3 o’r Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin sydd wedi ei chymeradwyo gan Grŵp Llywio Tirwedd Ddata yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch ac ystyr “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yw’r Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch a gynhelir gan Wasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.”
46 
Yn Atodlen 5A (Codau a Labeli Cwrs y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch)—
(a) yn lle’r cyfeiriad at “is-baragraff (c) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)” rhodder “is-baragraff (b) o Achos 3 yn rheoliad 25(2)”;
(b) ar ôl y cyfeiriad at “Achos 3 yn rheoliad 25(2).” mewnosoder “Mae i “y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch” yr ystyr a roddir ym mharagraff (3) o reoliad 25.”;
(c) yn lle Tabl 15A rhodder—“

Tabl 15A
Cod DPAU Label DPAU
100706 Gwallt a cholur
101374 Gwasanaethau trin gwallt
100131 Radioleg
100456 Astudiaethau plentyndod
100302 Hanes
100337 Athroniaeth
100621 Astudiaethau rhywedd
101233 Astudiaethau diwylliannol
100986 Rheoli adnoddau dŵr
100807 Rheoli treftadaeth
101091 Astudiaethau cwaternaidd
101078 Y gwyddorau amgylcheddol cymhwysol
101079 Hydroleg
101072 Rheoli llygredd
100381 Y gwyddorau amgylcheddol
101070 Newid hinsawdd
101067 Priddeg
101394 Rhewlifeg a systemau cryosfferig
100408 Daearyddiaeth amgylcheddol
101352 Bioddaearyddiaeth
101065 Daearyddiaeth arforol
101064 Geomorffoleg
100410 Daearyddiaeth ffisegol
101058 Y gwyddorau mapio
101056 Synhwyro o bell
100369 Systemau gwybodaeth ddaearyddol
100052 Ergonomeg
101104 Daeareg gymhwysol
101351 Rhyngweithiadau rhwng yr atmosffer a’r cefnforoedd
100379 Gwyddor hinsawdd
100394 Gwyddorau’r ddaear
101106 Daeareg beirianyddol
100380 Gwyddorau daear amgylcheddol
101093 Daeareg archwilio
101084 Geoffiseg archwilio
101083 Geocemeg
101082 Peryglon daearegol
101086 Eigioneg ddaearegol
100395 Daeareg
100396 Geoffiseg
101089 Hydroddaeareg
101073 Hydrograffeg
100418 Gwyddorau’r môr
100382 Meteoroleg
100421 Gwyddorau eigion
100398 Palaeontoleg
101105 Daeareg betrolewm
101081 Fwlcanoleg”.
47 
Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), Tabl 16, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol—“
“y Dosbarthiad Pynciau Addysg Uwch (DPAU)” Rheoliad 25(3)”;“
“Hierarchiaeth Cydgasglu Cyffredin” Rheoliad 25(3)”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2021