
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mehefin 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 16 rhodder—“
16. 

(1) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronaferiws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol gymryd y camau a ganlyn—Cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, ac wrth wneud hynny ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny.Darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a) y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;
(b) pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.Cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn agos at ei gilydd, megis—
(a) ceisio rhwystro’r personau a ganlyn rhag bod yn bresennol yn y fangre—
(i) unrhyw berson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol,
(ii) unrhyw berson sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws,
(iii) unrhyw berson sy’n profi symptomau sy’n gysylltiedig â COVID-19;
(b) sicrhau bod personau sy’n ymgynnull yn y fangre yn ymgynnull yn yr awyr agored pan fo hyn yn ymarferol;
(c) cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb rhwng personau yn y fangre, er enghraifft drwy—
(i) newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;
(ii) rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;
(iii) rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;
(iv) fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;
(v) gosod rhwystrau neu sgriniau;
(d) cyfyngu ar hyd yr amser y caniateir i bersonau fod yn bresennol yn y fangre;
(e) ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda;
(f) cynnal hylendid da yn y fangre;
(g) darparu, neu ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol.
(2) Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caniateir rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo unrhyw berson o fewn pellter o 2 fetr i berson arall.
(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) yn cynnwys—
(a) peidio â gwneud gweithgareddau penodol;
(b) cau rhan o’r fangre;
(c) caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd iddo gael canlyniad positif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, am gyfnod—
(i) a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(ii) a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;
(d) casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—
(i) Gweinidogion Cymru;
(ii) swyddog olrhain cysylltiadau;
(e) cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.
(4) Rhaid i asesiad o dan Gam 1—
(a) bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a
(b) cael ei gynnal—
(i) pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a
(ii) pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.
(5) At ddibenion paragraff (4)—
(a) mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “by or under the relevant statutory provisions”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a
(b) os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (4)(b)(ii)—
(i) mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a
(ii) mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (4)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.
(6) At ddibenion Cam 3, ystyr “grŵp a ganiateir” yw—
(a) pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 1 neu ardal Lefel Rhybudd 2, grŵp—
(i) sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bobl, heb gyfrif unrhyw bersonau o dan 11 oed nac unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp, neu
(ii) sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd;
(b) pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu ardal Lefel Rhybudd 4, grŵp sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd.”
(3) Yn rheoliad 17(1), ar ôl “person cyfrifol” mewnosoder “o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw”.
(4) Yn rheoliad 17A, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “person cyfrifol” mewnosoder “o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw”.
(5) Yn rheoliad 57—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—“
(ga) “COVID-19” yw dynodiad swyddogol y clefyd y gellir ei achosi gan y coronafeirws;”;
(b) ym mharagraff (9)(a), yn lle “bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed yn yr awyr agored” rhodder “neu fwyta neu yfed bwyd a diod”.
(6) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 2(5)—
(i) ym mharagraff (e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre,” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig”;
(ii) ar ôl paragraff (k) mewnosoder—“
(ka) cymryd rhan mewn cynulliad rheoleiddiedig o blant ysgol gynradd mewn llety gwyliau neu lety teithio, neu hwyluso’r cynulliad hwnnw, pan fo’r cynulliad yn ymwneud ag—
(i) cynulliad rheoleiddeidig a ddisgrifir ym mharagraff (k), neu
(ii) cynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at y diben a ddisgrifir yn is-baragraff (4)(i);”;
(b) ar ôl paragraff 2(5) mewnosoder—“
(6) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4—
(a) ystyr “plentyn ysgol gynradd” yw plentyn sydd ym mlwyddyn 6 neu’n is mewn ysgol yng Nghymru neu y byddai ym mlwyddyn 6 neu’n is pe bai’r plentyn yn mynychu ysgol yng Nghymru,
(b) mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996,
(c) mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr ag a roddir i “school year” yn adran 579(1) o’r Ddeddf honno,
(d) ystyr “blwyddyn 6” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed, ac
(e) ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol, y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.”;
(c) ym mharagraff 4—
(i) yn is-baragraff (2)—(aa) ym mharagraff (e), hepgorer “lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol,”;(bb) ar ôl paragraff (g) mewnosoder—“
(ga) cynulliad rheoleiddiedig o blant ysgol gynradd mewn llety gwyliau neu lety teithio, pan fo’r cynulliad yn ymwneud ag—
(i) cynulliad rheoleiddeidig a ddisgrifir ym mharagraff (g), neu
(ii) cynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol yn unol â pharagraff 2(4)(i);”;(cc) ym mharagraff (h)—i yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), ar ôl “mangre reoleiddiedig” mewnosoder “(ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio)”;ii yn is-baragraff (ii), hepgorer “neu, os yw’r fangre reoleiddiedig yn lety gwyliau neu lety teithio, o’r un aelwyd estynedig”;(dd) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(ia) digwyddiad sy’n unrhyw un o’r canlynol, pan fo’n cael ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw—
(i) arddangosiad ffilm,
(ii) perfformiad adloniant pan na fo mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored,
(iii) marchnad, neu
(iv) gwasanaeth crefyddol;
(ib) digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;”;(ee) ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(k) digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio a lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.”;
(ii) yn is-baragraff (3), hepgorer paragraffau (c) a (d).
(7) Yn Atodlen 2, paragraff 4—
(a) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu gynulliad yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol”;
(ii) ym mharagraff (f)(i), hepgorer “heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo,”;
(iii) ym mharagraff (g)(i), hepgorer “heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo,”;
(iv) ar ôl paragraff (h) mewnosoder—“
(i) digwyddiad a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio, ac—
(i) lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu
(ii) lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd;
(j) digwyddiad sy’n unrhyw un o’r canlynol, pan fo’n cael ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw—
(i) arddangosiad ffilm,
(ii) perfformiad adloniant pan na fo mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored,
(iii) marchnad, neu
(iv) gwasanaeth crefyddol;
(k) digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;
(l) digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac—
(i) lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu
(ii) lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig;
(m) digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio a lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.”;
(b) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n bresennol mewn digwyddiad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—
(a) unrhyw blant o dan 11 oed,
(b) gofalwr unrhyw berson sy’n bresennol, neu
(c) unrhyw berson sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.”;
(c) yn is-baragraff (3), hepgorer paragraffau (c) a (d).
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 1.39 p.m. ar 18 Mehefin 2021