
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd” (“the Public Health Information Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020;ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y lle priodol, mewnosoder “ystyr “y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” (“the International Travel Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;”;
(b) yn y diffiniad o “gofyniad i ddarparu gwybodaeth” (“requirement to provide information”), yn lle “Rhan 2 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 4 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”;
(c) yn y diffiniad o “gofyniad i ynysu” (“requirement to isolate”), yn lle “Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020” rhodder “rheoliad 7 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”.
(3) Yn rheoliad 3 (darparu gwybodaeth cyn archebu ac wrth gofrestru)—
(a) yn lle paragraff (2)(a) rhodder—“
(a) yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn archebu taith ar-lein—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn archebu,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii) dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv) dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v) dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi) dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”;
(b) yn lle paragraff (2)(b) rhodder—“
(b) yn achos cyfleuster a ddarperir er mwyn cofrestru ar gyfer taith ar-lein—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen y mae rhaid iddi fod wedi ei gosod mewn lle amlwg fel ei bod yn weladwy cyn cofrestru,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii) dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv) dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v) dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi) dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”;
(c) yn lle paragraff 2(c)(ii) rhodder—“
(ii) pan ddarperir gwybodaeth yn ysgrifenedig, hysbysiad ysgrifenedig sy’n nodi—(aa) y gofyniad i ddarparu gwybodaeth,(bb) y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ac(cc) y gofyniad i ynysu;”;
(d) ym mharagraff (2)(d), yn lle “cais” rhodder “cais ysgrifenedig”.
(4) Yn rheoliad 3A (darparu gwybodaeth cyn i daith ymadael)—
(a) ym mharagraff (4)(a), ar ôl is-baragraff (iv) mewnosoder—“
(v) yn hysbysu P am y gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol yn unol â rheoliad 6A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”;
(b) yn lle paragraff (4)(b) rhodder—“
(b) pan ddarperir yr wybodaeth drwy’r e-bost—
(i) yr wybodaeth a nodir yn Rhan 1 o’r Atodlen,
(ii) dolen i www.gov.uk/uk-border-control (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iii) dolen i https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(iv) dolen i www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel (y cyfeirir ati yn Rhan 1 o’r Atodlen),
(v) dolen i www.gov.uk/provide-journey-contact-details-before-travel-uk, ac
(vi) dolen i https://gov.wales/exemptions-self-isolation-coronavirus-covid-19-html;”.
(5) Yn lle Rhan 1 o’r Atodlen (yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c)), rhodder—“
RHAN 1Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), (3)(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—
“ESSENTIAL INFORMATION TO ENTER THE UK
The United Kingdom is taking steps to help stop the spread of COVID-19.
1) All persons (including UK nationals and residents) arriving in the UK from outside the common travel area must provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to the UK. For further information please visit: https://gov.wales/coronavirus-covid-19-testing-people-travelling-wales
2) To protect your health and others’, everyone must complete an online passenger locator form before arrival in the United Kingdom.
3) All arrivals must self-isolate for 10 days unless exempt. Check the list of exempt countries immediately before travel and the list of work related exemptions if travelling for work.
4) It is a legal requirement that you wear a face covering on public transport in the UK.
5) If you self-isolate in England, you may opt in to Test to Release. For further information please visit www.gov.uk/guidance/coronavirus-covid-19-test-to-release-for-international-travel.
Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. Please visit www.gov.uk/uk-border-control for detailed public health advice and requirements for entering the UK.”
”.
3 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gwybodaeth am deithiwr), hepgorer paragraffau 2(g), 3 a 5.
(3) Ym mharagraff 3(1)(e) o Atodlen 1A (profion cyn cyrraedd Cymru), ar ôl “ailddechrau gweithio” mewnosoder—“,
(f) aelod o griw awyren sy’n cael ei gludo ar hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren, er budd diogelwch yr awyren, pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith.”
4 

(1) Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) 2021 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “prawf cymhwysol”;
(b) yn y diffiniad o “teithiwr perthnasol”, ar ôl “hysbysiad” mewnosoder “dilys o ganlyniad negyddol o brawf cymhwysol”;
(c) yn lle’r diffiniad o “hysbysiad gofynnol” rhodder—“
 ystyr “hysbysiad gofynnol” (“required notification”) yw hysbysiad o ganlyniad prawf ar gyfer canfod y coronafeirws sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg—
(a) enw’r person y cymerwyd sampl y prawf ohono,
(b) dyddiad geni neu oed y person hwnnw,
(c) canlyniad negyddol y prawf hwnnw,
(d) y dyddiad y casglwyd sampl y prawf neu’r dyddiad y cafodd darparwr y prawf ef,
(e) enw darparwr y prawf a gwybodaeth sy’n ddigonol i gysylltu â’r darparwr hwnnw,
(f) enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf; ”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Am 3.08 p.m. ar 22 Ionawr 2021