
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw £5.25. ”
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw—
(a) (yn ddarostyngedig i baragraffau (2B) i (2E)) yn achos llwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir, pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o ddisgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, ac sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw—
(i) y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
(ii) y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;
(b) yn achos llwyth sy’n tarddu o unrhyw wlad arall—
(i) yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o flodau wedi eu torri—(aa) y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r blodau wedi eu torri hynny; a(bb) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r blodau wedi eu torri hynny;
(ii) yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o flodau wedi eu torri—(aa) ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a(bb) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);
(iii) yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o ffrwythau neu lysiau—(aa) y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny; a(bb) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny;
(iv) yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o ffrwythau neu lysiau—(aa) ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a(bb) y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);
(v) yn achos llwyth sy’n cynnwys—(aa) planhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir yn y tabl yng ngholofn 1 o Atodlen 2, neu(bb) peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth,i’r graddau y maent (yn y naill achos neu’r llall) yn tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofnau 3 a 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod, yn y drefn honno, o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth (ac eithrio unrhyw rai a bennir hefyd yn Atodlen 1), ac (i’r graddau y maent yn berthnasol) peiriannau neu gerbydau;
(vi) pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1—(aa) y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;(bb) y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.
(2B) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri neu ffrwythau neu lysiau yw, ni waith faint o lotiau a geir yn y llwyth—
(a) yn achos llwyth sydd ond yn cynnwys blodau wedi eu torri neu ond yn cynnwys ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw;
(b) yn achos llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri a ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o bob math.
(2C) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion, i’r graddau y mae’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o un categori perthnasol ac yn tarddu o’r un wlad ond yn dod o fewn dau neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, yw’r ffioedd uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad o’r fath.
(2D) At ddibenion paragraff (2C), ystyr “categori perthnasol”, mewn perthynas â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion, yw unrhyw un o’r categorïau a ganlyn o blanhigion neu gynhyrchion planhigion—
(a) rhisgl;
(b) bylbiau;
(c) cormau;
(d) planhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu;
(e) rhisomau;
(f) hadau;
(g) meithriniad meinwe;
(h) cloron (ac eithrio cloron tatws).
(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, pan fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.”.
(3) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd)—
(a) Ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),”;
(b) Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(4A) Nid yw’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a) gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu
(b) i’w ddanfon i—
(i) gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu
(ii) unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddiben unrhyw fusnes.
(4B) Mae paragraff (4A) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.”.
(c) ym mharagraff (5), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “gweithredwr proffesiynol” yw unrhyw berson a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb proffesiynol amdanynt—
(a) plannu;
(b) bridio;
(c) cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;
(d) cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;
(e) eu cynnig ar y farchnad;
(f) storio, casglu, anfon a phrosesu.”.
(4) Yn lle Atodlen 1 rhodder—“
ATODLEN 1
Rheoliad 3(1) a (2A)(b)(vi)


Colofn 1Disgrifiad o’r Planhigyn, y cynnyrch planhigion neu wrthrych arall Colofn 2Ffi: Gwiriad ffisegol (£) Colofn 3Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau 173.91 5.25
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio hadau) 182.38 5.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws) 205.04 5.25
Hadau, meithriniad meinwe 128.13 5.25
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn 182.38 5.25
Blodau wedi eu torri 42.75 5.25
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) 33.99 5.25
Coed Nadolig wedi eu torri 119.64 5.25
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog 71.68 5.25
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) 53.10 5.25
Cloron tatws 156.69 5.25
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl 119.64 5.25
Grawn 142.98 5.25
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd 22.73 5.25.”.
(5) Ar ôl Atodlen 1, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—“
ATODLEN 1A
Rheoliad 3(2A)(a)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys) Colofn 2Gwlad tarddiad Colofn 3Ffi: Gwiriad ffisegol (£) Colofn 4Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 173.91 5.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 205.04 5.25
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 20.50 0.52
Hadau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Allium cepa L. Pob 128.13 5.25
Allium porrum L. Pob 128.13 5.25
Castanea Mill. Pob 128.13 5.25
Capsicum spp. L. Pob 128.13 5.25
Helianthus annuus L. Pob 128.13 5.25
Medicago sativa L. Pob 128.13 5.25
Phaseolus cocineus Pob 128.13 5.25
Phaseolus vulgaris L. Pob 128.13 5.25
Solanum lycopersicum L. Pob 128.13 5.25
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws) Pob 128.13 5.25
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L. Pob 128.13 5.25
Hadau planhigion olew a ffibr —
Brassica napus L. Pob 128.13 5.25
Brassica rapa L. Pob 128.13 5.25
Sinapis alba L. Pob 128.13 5.25
Glycine max (L.) Merrill Pob 128.13 5.25
Linum usitatissimum L. Pob 128.13 5.25
Hadau, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Allium cepa L. Pob 6.40 0.26
Allium porrum L. Pob 6.40 0.26
Castanea Mill. Pob 6.40 0.26
Capsicum spp. L. Pob 6.40 0.26
Helianthus annuus L. Pob 6.40 0.26
Medicago sativa L. Pob 6.40 0.26
Phaseolus cocineus Pob 6.40 0.26
Phaseolus vulgaris L. Pob 6.40 0.26
Solanum lycopersicum L. Pob 6.40 0.26
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws) Pob 6.40 0.26
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L. Pob 6.40 0.26
Hadau planhigion olew a ffibr —
Brassica napus L. Pob 6.40 0.26
Brassica rapa L. Pob 6.40 0.26
Sinapis alba L. Pob 6.40 0.26
Glycine max (L.) Merrill Pob 6.40 0.26
Linum usitatissimum L. Pob 6.40 0.26
Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn
Pob genera Pob 3.84 0.15
Meithriniad meinwe, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 128.13 5.25
Meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 6.40 0.26
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 182.38 5.25
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol
Pob genera Pob 18.23 0.52
Blodau wedi eu torri
Pob genera Pob 1.28 0.15
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig sydd wedi eu torri
Pob genera Pob 1.02 0.15
Coed Nadolig wedi eu torri
Pob genera Pob 3.58 0.15
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog
Pob genera Pob 2.15 0.15
Ffrwythau neu lysiau
Pob genera Pob 1.59 0.15
Cloron tatws
Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu (tatws hadyd) Pob 156.69 5.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania 78.34 2.62
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) Sbaen 156.69 5.25
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) Unrhyw un arall o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 4.70 0.15
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl
Rhisgl—
Castanea Mill. Pob 5.98 0.26
Conwydd (Pinales) Pob 5.98 0.26
Juglans L. Pob 5.98 0.26
Pterocarya Kunth. Pob 5.98 0.26
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl
Rhisgl pob genera nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn Pob 3.58 0.15
Grawn
Pob genera Pob 4.28 0.15
Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu
Pob genera Pob 0.68 0.15
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
— Pob 5.98 0.26

”.
(6) Yn lle Atodlen 2 rhodder—“
ATODLEN 2
Rheoliad 3(2A)(b)(i) i (v) a (3)


Colofn 1Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys) Colofn 2Gwlad tarddiad Colofn 3Ffi: Gwiriad ffisegol (£) Colofn 4Ffi: Gwiriad adnabod (£)
Blodau wedi eu torri
Aster Zimbabwe 32.06 3.93
Dianthus Columbia 1.28 0.15
 Ecuador 6.41 0.78
 Kenya 2.14 0.26
 Twrci 6.41 0.78
Rosa Columbia 1.28 0.15
 Ecuador 0.43 0.05
 Ethiopia 2.14 0.26
 Kenya 4.28 0.52
 Tanzania 21.38 2.62
 Zambia 4.28 0.52
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri)
Phoenix Costa Rica 17.00 2.62
Ffrwythau
Carica papaya Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Cydonia Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Fragaria Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Malus Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
 Yr Ariannin 18.59 1.83
 Brasil 26.55 2.62
 Chile 2.66 0.26
 Seland Newydd 5.31 0.52
 De Affrica 2.66 0.26
Persea Americana Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Prunus Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
 Yr Ariannin 39.83 3.93
 Chile 5.31 0.53
 Moroco 26.55 2.62
 Twrci 18.59 1.83
Prunus ac eithrio prunus persica De Affrica 5.31 0.26
Pyrus Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
 Yr Ariannin 7.97 0.78
 Chile 7.97 0.78
 Tsieina 26.55 2.62
 De Affrica 5.31 0.53
Ribes Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Rubus Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Vaccinium Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
 Yr Ariannin 13.28 1.31
 Chile 5.31 0.53
 Periw 5.31 0.53
Vitis Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir 2.66 0.26
Llysiau
Solanum lycopersicon Yr Ynysoedd Dedwydd 2.66 0.26
 Moroco 2.66 0.26
Solanum melongena Twrci 7.97 1.31
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth
— Unrhyw drydedd wlad 5.98 0.26

Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky
federalny okrug), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain.”.
(7) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—“
ATODLEN 2A
Rheoliad 3(2E)
1. 
Hadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn”.
2. 
Blodau wedi eu torri.
3. 
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig sydd wedi eu torri.
4. 
Coed Nadolig wedi eu torri.
5. 
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog.
6. 
Ffrwythau.
7. 
Llysiau.
8. 
Cloron tatws sy’n tarddu o unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE (ac eithrio Portiwgal, Gwlad Pwyl, Rwmania a Sbaen), Liechtenstein neu’r Swistir.
9. 
Rhisgl pob genera ac eithrio Castanea Mill, conwydd (Pinales), Juglans L a Pterocarya Kunth.
10. 
Grawn.
11. 
Planhigion neu gynhyrchion planhigion y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu”.”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2021