
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 3 Mai 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4, hepgorer paragraffau (6A) a (6B).
(3) Yn Atodlen 1, paragraff 3(5)(ba), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.
(4) Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 2(6)(k) rhodder—“
(k) cymryd rhan mewn gweithgaredd wedi ei drefnu, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, neu’n hwyluso’r gweithgaredd hwnnw, er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol);”;
(b) ym mharagraff 3(6)(aa), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”.
(5) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff 4(6)(b), ar ôl “Atodlen 3A” mewnosoder “(er gwaethaf ei ddirymu gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2021)”;
(b) ym mharagraff 9—
(i) yn is-baragraff (2) hepgorer “33 (sbaon),”;
(ii) yn lle is-baragraff (4) rhodder—“
(4) Er gwaethaf is-baragraff (1), caiff person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraff 28 (busnesau gwyliau, gweithgareddau hamdden neu ddigwyddiadau) agor ardaloedd o dan do ei fangre i’r cyhoedd, ond dim ond at ddibenion hwyluso gweithgaredd wedi ei drefnu er datblygiad neu lesiant personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020 (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).”;
(c) yn lle paragraff 33 rhodder—“
33. 
Ystafelloedd stêm.”
(6) Hepgorer Atodlen 3A.
(7) Yn Atodlen 5—
(a) yn y pennawd, hepgorer “ac addasiadau dros dro”;
(b) hepgorer paragraff 2.
3 
Mae rheoliad 2(13)(b)(vii)(dd) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2021 wedi ei ddiddymu.
4 
Yn rheoliad 6(2)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, yn lle “paragraff 2” rhodder “paragraff 3”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2021