
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021.
2 
Ar ôl erthygl 16 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 mewnosoder—“
16A. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a) sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf,
(b) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol gyntaf—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010;
(b) ystyr “ysgol gyntaf” yw’r ysgol a gynhelir yr oedd y plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi ar 1 Medi 2021.
16B. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a) sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(b) y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,
(c) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, a
(d) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
16C. 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021—
(a) sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf,
(b) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad dim anghenion ar ei gyfer, ac
(c) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 15 o’r Ddeddf—
(a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.”.
3 
Yn lle erthygl 8 o Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 rhodder—“
8. 

(1) Caiff plentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2021, neu riant y plentyn hwnnw, wneud cais i’r person priodol i’r gyfraith newydd fod yn gymwys i’r plentyn hwnnw.
(2) Mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad y daw’r cais i law.
(3) Mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “person priodol” yw—
(a) yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn,
(b) pan na fo awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn, awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ysgol a gynhelir neu’r uned cyfeirio disgyblion y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn ei ardal.”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
28 Ebrill 2021