
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 23 Ebrill 2021.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 6B(1A) (gofyniad i drefnu profion cyn cyrraedd Cymru), o flaen “yn gymwys”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(f)”.
4 
Yn rheoliad 6K(1) (profi’r gweithlu), ar ôl “Atodlen 2” mewnosoder “neu reoliad 12E(2)(g)”.
5 

(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (2)(e) mewnosoder—“
(f) yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 14 o Atodlen 5;
(g) yn berson—
(i) y mae’n ofynnol iddo ymgymryd â gwaith fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol yn y Deyrnas Unedig,
(ii) sy’n gymwys i ymarfer proffesiwn a reoleiddir gan unrhyw un neu ragor o’r cyrff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 neu adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a
(iii) sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig at ddiben cyflogaeth fel gweithiwr iechyd proffesiynol neu weithiwr gofal proffesiynol.”
(3) Ym mharagraff (3F)(b), yn yr addasiad i reoliad 10(4), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“
(i) pan fo P yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2)(f), at ddiben ymgymryd â’r gwaith hwnnw.”
6 
Yn Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—“
 India”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 2.54 p.m. ar 22 Ebrill 2021