
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 

(1) Mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r cofnodion yn Rhan 1 (gwledydd, tiriogaethau a rhannau o wledydd neu diriogaethau), rhodder “Nid yw unrhyw wledydd, unrhyw diriogaethau nac unrhyw rannau o wledydd neu diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon”.
(3) Yn lle’r cofnodion yn Rhan 2 (tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig), rhodder “Nid yw unrhyw diriogaethau wedi eu pennu yn y Rhan hon”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod ddiwethaf mewn gwlad neu diriogaeth a oedd wedi ei rhestru yn Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn union cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021—
(i) o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a oedd wedi ei rhestru yn Rhan 1 neu Ran 2 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn union cyn 4.00 a.m. ar 18 Ionawr 2021, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3
4 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 nac 8), hepgorer paragraff 37.
RHAN 4
5 
Yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gofynion ynysu: eithriadau), hepgorer is-baragraffau (4)(jc) a (4)(jd).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2021