
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021.
(2) Daw Rhannau 1, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021.
(3) Daw Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr y “Rheoliadau Cyfyngiadau” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer y cofnodion a ganlyn—“
 Aruba”“
 ynysoedd Açores”“
 Bonaire, Sint Eustatius a Saba”“
 Chile”“
 Madeira”“
 Qatar”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 16 Ionawr 2021 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 16 Ionawr 2021.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3
4. 
Yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol), yn y lle priodol mewnosoder—“
 Ariannin”“
 Brasil”“
 Bolivia”“
 Chile”“
 Colombia”“
 Ecuador”“
 Guiana Ffrengig”“
 Guyana”“
 Gweriniaeth Cabo Verde”“
 Gweriniaeth Panamá”“
 Paraguay”“
 Periw”“
 Portiwgal”“
 Suriname”“
 Uruguay”“
 Venezuela”.
5 
Nid yw rheoliad 12F o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw hediad neu daith a gychwynnodd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
6 
Yn rheoliad 12E o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
(a) mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2),
(b) bu ddiwethaf ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, ac
(c) nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall a restrir yn Atodlen 3A.”
7 
Ym mharagraff 8 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, hepgorer “yn unol â Chonfensiwn Llafur Morwrol 2006 neu Gonfensiwn Gwaith mewn Pysgota 2007”.
RHAN 4
8 

(1) Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11A, yn lle’r pennawd rhodder—“”.
(3) Ar ôl rheoliad 11A mewnosoder—“
11AA. 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yng Nghymru am 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021,
(b) wedi cyrraedd Cymru o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac
(c) wedi bod mewn gwlad restredig o fewn y cyfnod hwnnw.
(2) Oni bai bod rheoliad 11B yn gymwys, ni chaiff P, nac unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â P, adael y man lle y mae’n byw neu fod y tu allan iddo tan ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr oedd P mewn gwlad restredig ddiwethaf.
(3) Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i P hysbysu’r swyddog olrhain cysylltiadau—
(a) am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a
(b) am gyfeiriad y man hwnnw.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r gwledydd a ganlyn yn wledydd rhestredig—
(a) Ariannin;
(b) Brasil;
(c) Bolivia;
(d) Chile;
(e) Colombia;
(f) Ecuador;
(g) Guiana Ffrengig;
(h) Guyana;
(i) Paraguay;
(j) Periw;
(k) Portiwgal;
(l) Gweriniaeth Cabo Verde;
(m) Gweriniaeth Panamá;
(n) Suriname;
(o) Uruguay;
(p) Venezuela.
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan, o ran P—
(a) mae’n weithiwr cludiant ffyrdd (o fewn yr ystyr a roddir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020),
(b) mae wedi bod ym Mhortiwgal o fewn y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dod i ben yn union cyn 4.00 a.m. ar 15 Ionawr 2021, ac
(c) nid yw, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi bod mewn unrhyw wlad restredig arall.”
(4) Yn rheoliad 11B(1), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.
(5) Yn rheoliad 12, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
(6) Yn rheoliad 14(2)(aa), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “neu 11AA(2)”.
(7) Yn rheoliad 22(4)(a), yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
(8) Yn rheoliad 30, yn lle “neu 11A(2)” rhodder “, 11A(2) neu 11AA(2)”.
(9) Yn rheoliad 40—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “11A(2)” mewnosoder “, 11AA(2)”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”;
(b) ym mharagraff (2)(a), yn lle “neu 11A(3)” rhodder “, 11A(3) neu 11AA(3)”.
(10) Ym mharagraff 48 o Atodlen 4, yn y testun Cymraeg, yn lle “a chartrefi arddangos” rhodder “a swyddfeydd gwerthiant datblygwyr”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2021