
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2021.
2 
Y diwrnod penodedig i’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ddod i rym (y gosodwyd copi ohono ar ffurf ddrafft gerbron Senedd Cymru ar 18 Mawrth 2021 ac a gymeradwywyd drwy benderfyniad gan Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2021) yw 1 Medi 2021.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2021