
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Galluedd rhieni a phersonau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2021.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adeg berthnasol” (“relevant time”) yw’r adeg y mae’n ofynnol, neu y caniateir, o dan y Ddeddf, i rywbeth gael ei wneud gan riant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn) neu mewn perthynas â rhiant neu berson o’r fath;
 ystyr “cynrychiolydd” (“representative”), mewn perthynas â rhiant neu berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, oedolyn), yw—
(a) dirprwy a benodir gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 i wneud penderfyniadau ar ran y rhiant neu’r person mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;
(b) rhoddai atwrneiaeth arhosol (o fewn ystyr “lasting power of attorney” yn adran 9 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) a benodir gan y rhiant neu’r person i wneud penderfyniadau ar ei ran mewn perthynas â materion o fewn Atodlen 17 i’r Ddeddf;
(c) atwrnai y mae atwrneiaeth barhaus (o fewn ystyr “enduring power of attorney” yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) sydd wedi ei chreu gan y rhiant neu’r person wedi ei breinio ynddo, pan fo’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru yn unol â pharagraffau 4 a 13 o’r Atodlen honno neu pan fo cais i gofrestru’r atwrneiaeth wedi ei wneud;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;
 mae i “galluedd” yr un ystyr â “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005;
 ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
 mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996;
 ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
 mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn Neddf Addysg 1996.
3 
Pan nad oes gan riant i blentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “parent” ym mharagraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
4 
Pan nad oes gan berson sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol alluedd ar yr adeg berthnasol, mae’r cyfeiriad at “person” ym mharagraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at gynrychiolydd i’r person hwnnw.
5 

(1) Pan fo rheoliad 3 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(b) o Atodlen 17 i’r Ddeddf, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r rhiant hwnnw.
(2) Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad â phlentyn sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol, mae’r cyfeiriadau at “parent” yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r plentyn hwnnw.
(3) Pan fo rheoliad 4 yn gymwys i hawliad o dan baragraff 3A(1)(a) o Atodlen 17 i’r Ddeddf mewn cysylltiad ag oedolyn, mae’r cyfeiriadau yn adran 86(2), (3) a (4) o’r Ddeddf at—
(a) “parent or sibling” i’w darllen fel cyfeiriadau at gynrychiolydd i’r oedolyn hwnnw, a
(b) “child” i’w darllen fel cyfeiriadau at yr oedolyn hwnnw.
6 

(1) Mae rheoliadau 3, 5(1) a (2) yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
(2) Pan fo rheoliad 4 yn gymwys mewn cysylltiad â phlentyn, mae’r rheoliad yn cael effaith er gwaethaf adran 27(1)(g) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
Am 6.50 p.m. ar 24 Mawrth 2021