
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mai 2021.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 6 a’r rheoliad hwn, yn peidio â chael effaith ar 31 Rhagfyr 2021.
(3) Mae rheoliad 6 a’r rheoliad hwn yn peidio â chael effaith ar 4 Awst 2022.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2001” yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001.
2 
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 2—“
2A. 

(1) Caniateir i gyfarfod o fforwm neu bwyllgor o fforwm gael ei gynnal drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd a chlywed ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster hefyd yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ai peidio).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at y ffaith bod person yn mynychu cyfarfod neu’n bresennol mewn cyfarfod yn cynnwys, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir drwy’r cyfrwng a ddisgrifir ym mharagraff (1), mynychu drwy ddefnyddio’r cyfrwng hwnnw.”
3 
Mae Rheoliadau 2001 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl rheoliad 7—“
7A. 

(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn ymwneud â phenodiad a wneir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym ac sy’n dod i ben ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2021.
(2) Yn rheoliad 7(a) and (b) o Reoliadau 2001”., mae “rhaid i” i’w ddarllen fel “caiff”.
(3) Os nad yw awdurdod penodi yn arfer y naill neu’r llall o’r pwerau yn rheoliadau 7(a) a (b), neu’r ddau ohonynt, mae rheoliad 4(3) i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “naw mis i ben sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf aelodaeth y person” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm ”. ”
4 
Mae rheoliad 10(2)(c) (papurau ar gyfer cyfarfodydd) i’w ddarllen, mewn perthynas â chyfarfod a gynhelir cyn diwedd 31 Rhagfyr 2021, fel pe bai’r geiriau “yn cael eu hanfon drwy’r post at bob aelod o’r fforwm yn y cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod; neu’n cael eu hanfon ar ffurf electronig at bob aelod o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “yn cael eu cyflwyno” hyd at y diwedd.
5 
Mae rheoliad 12 (ethol cadeirydd a dirprwy gadeirydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (2), “gan ddefnyddio unrhyw weithdrefn y mae’r fforwm yn penderfynu arni” wedi ei roi yn lle “drwy bleidlais gyfrinachol”;
(b) paragraffau (4) i (6) wedi eu hepgor.
6 
Mae rheoliad 15 (cynnal cyfarfodydd) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) ym mharagraff (2), y geiriau “ac os yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, caiff y person sy’n llywyddu, os yw eitem benodol o fusnes sydd i’w hystyried yn y cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i’r cyhoedd gael ei wahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno, ddyfarnu bod y cyhoedd i’w wahardd” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “a rhaid iddynt fod yn agored i’r cyhoedd” hyd at y diwedd;
(b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(2A) Ym mharagraffau (1) a (2), nid yw’r cyfeiriadau at y lle y cynhelir cyfarfodydd wedi eu cyfyngu i un lleoliad ffisegol.”;
(c) ym mharagraff (10), “, neu drwy unrhyw ddull pleidleisio arall y mae’r fforwm yn penderfynu arno” wedi ei fewnosod ar ôl “drwy i’r aelodau sy’n bresennol godi llaw”;
(d) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (10)—“
(11) Os yw’n angenrheidiol cynnal pleidlais ar gwestiwn y dull pleidleisio y mae’r fforwm i’w ddefnyddio, mae’r person sy’n llywyddu i benderfynu ar y dull o bleidleisio ar y cwestiwn hwnnw.”
7 
Mae rheoliad 14 o Reoliadau 2001 (terfynu aelodaeth o fforymau) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)—“
(1A) Mewn perthynas ag unrhyw aelod penodol o fforwm, nid yw’r cyfnod o 12 mis a bennir ym mharagraff (1)(e) i gynnwys y cyfnod—
(a) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 yn dod i rym (“Diwrnod Un”), a
(b) sy’n dod i ben â’r diwrnod cyntaf ar ôl Diwrnod Un pan gynhelir cyfarfod o’r fforwm, neu unrhyw bwyllgor o’r fforwm.”
8 
Mae rheoliad 16 o Reoliadau 2001 (adroddiadau blynyddol) i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (3)—“
(3) Rhaid i’r awdurdod penodi gyhoeddi adroddiad blynyddol a gymeradwyir ar ôl 31 Ebrill 2021 a chyn diwedd 31 Rhagfyr 2021 ar ei wefan a rhaid iddo hefyd fod ar gael i edrych arno yn swyddfa’r awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol.”
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2021