
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Ebrill 2021.
2 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Ar ôl rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder—“
2A. 
Nid yw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddatganiadau blynyddol a gyflwynir ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r blynyddoedd ariannol a bennir yn rheoliad 10(1)—
(a) rheoliadau 3 i 6;
(b) yr Atodlen.”
4 
Yn rheoliad 10(1) (terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau blynyddol), yn lle “26 Mai 2021” rhodder “26 Mai 2022”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2021