
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 5—
(a) Ym mharagraff 5(3), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”;
(b) Ym mharagraff 6(1)(c), yn lle “1 Ebrill 2021” rhodder “31 Gorffennaf 2021”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Mawrth 2021