
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2021.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2013” yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013.
2 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013, yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”, yn lle “ym mis Mehefin 2018 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”” rhodder “ar wefan llyw.cymru ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion””.
3 

(1) Mae llywodraethwr a gwblhaodd, rhwng 18 Tachwedd 2020 a’r adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym, hyfforddiant i lywodraethwyr ynghylch data perfformiad ysgolion a bennir yn nogfen 2020 a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran i’w drin, at ddiben rheoliad 5(1) a (3) o Reoliadau 2013, fel pe bai wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol ar ddata perfformiad ysgolion.
(2) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “dogfen 2020” (“the 2020 document”) yw’r ddogfen hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar wefan llyw.cymru ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion”;
 mae i “hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“school performance data training”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2013.
4 
Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Mawrth 2021