
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 20 Mawrth 2021.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 10 (gofynion ynysu: eithriadau), ar ôl paragraff (4)(m) mewnosoder—“
(n) os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.”
4 

(1) Mae rheoliad 12E (mesurau ychwanegol sy’n gymwys i bersonau sy’n teithio o wlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)(d)—
(a) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(ia) paragraffau 7 i 10;”;
(b) mae paragraff (ii) wedi ei hepgor.
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo gofyniad i ynysu (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2)) yn cael ei osod ar P pan fo P wedi dod i Gymru a’i fod wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â’r degfed diwrnod cyn y dyddiad y mae P yn cyrraedd Cymru.
(3B) Pan fo paragraff (3A) yn gymwys—
(a) mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn gymwys i P gyda’r addasiadau ym mharagraffau (3C) i (3F);
(b) mae’r gofyniad i ynysu sydd wedi ei osod ar P fel y’i haddesir gan baragraffau (3C) i (3F) hefyd wedi ei osod ar bob aelod o aelwyd P.
(3C) Mae rheoliad 7 yn gymwys fel pe bai—
(a) ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;
(b) paragraff (4)(b) wedi ei hepgor.
(3D) Mae rheoliad 8 yn gymwys fel pe bai—
(a) ym mharagraff (1), cyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” yn gyfeiriadau at “gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A”;
(b) paragraff (2)(b) wedi ei hepgor.
(3E) Mae rheoliad 9 yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (2)—“
(2) Nid yw rheoliadau 7 ac 8 yn gymwys i berson a ddisgrifir yn rheoliad 12E(2).”
(3F) Mae rheoliad 10 yn gymwys fel pe bai—
(a) ym mharagraff (3), “baragraff (4)” wedi ei roi yn lle “baragraff (4)(b) i (k)”;
(b) y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (4)—“
(4) Caniateir i P ymadael â’r fangre a bod y tu allan iddi am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol—
(a) i deithio at ddiben gadael Cymru;
(b) i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig;
(c) i osgoi salwch, anaf, neu risg arall o niwed;
(d) i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
(e) pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;
(f) am resymau tosturiol, gan gynnwys i fynd i angladd—
(i) aelod o deulu P;
(ii) ffrind agos;
(g) at ddiben cael prawf am y coronafeirws a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(h) os yw cwnstabl yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.””
5 
Yn lle rheoliad 13 (gorfodi gofyniad i ynysu) rhodder—“
13. 

(1) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod person (“P”) wedi ymadael â’r lle y mae’n ynysu ynddo, neu ei fod y tu allan iddo, yn groes i reoliad 7(3) neu 8(3)(b) caiff y person awdurdodedig—
(a) cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;
(b) pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl, symud P ymaith i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi;
(c) pan fo’r person awdurdodedig yn gwnstabl ac nad yw’n ymarferol neu’n briodol o dan yr amgylchiadau cymryd y cam yn is-baragraff (a) neu (b), symud P ymaith i fangre wedi ei threfnu gan Weinidogion Cymru sy’n addas i P breswylio ynddi at ddibenion rheoliad 7(3) neu 8(3)(b).
(2) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A), caiff person awdurdodedig wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol at ddiben sicrhau bod P yn cydymffurfio â gofyniad yn rheoliadau 7 ac 8—
(a) rhoi cyfarwyddyd i P, gan gynnwys cyfarwyddyd—
(i) bod P yn aros mewn ardal benodol o borthladd i aros i gael ei gludo i fangre benodedig;
(ii) bod P yn symud i le penodol er mwyn mynd ar gludiant i fangre benodedig;
(iii) bod P yn mynd ar gludiant er mwyn teithio i fangre benodedig;
(iv) bod P yn aros yn y fangre y mae P yn preswylio ynddi;
(b) symud P ymaith i fangre benodedig.
(3) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn berson sy’n dod o fewn rheoliad 12E(3A) a bod P wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 14(1)(g), caiff y person awdurdodedig—
(a) ei gwneud yn ofynnol i P ddangos ei basbort neu ei ddogfen deithio i’w archwilio neu ei harchwilio,
(b) cadw P am hyd at dair awr,
(c) cynnal chwiliad o P ac unrhyw baciau sy’n perthyn i P neu sydd o dan reolaeth P, neu unrhyw gerbyd y mae P wedi teithio ynddo, am dystiolaeth, ac eithrio eitemau sy’n ddarostyngedig i fraint gyfreithiol, sy’n ymwneud â chyflawni trosedd bosibl o dan reoliad 14(1)(g), a
(d) ymafael mewn unrhyw ddogfen neu wrthrych a ganfyddir mewn chwiliad o dan is-baragraff (c) a’i chadw neu ei gadw.
(4) Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gadw neu gynnal chwiliad o blentyn sydd ar ei ben ei hun.
(5) Rhaid i unrhyw chwiliad o dan baragraff (3) gael ei gynnal gan berson awdurdodedig sydd o’r un rhywedd â P.
(6) Nid yw paragraff (3) yn rhoi pŵer i gynnal chwiliad o ran bersonol o’r corff.
(7) Caiff person awdurdodedig sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (1)(b) neu (c), (2)(b) neu (3) ddefnyddio grym rhesymol, os yw hynny’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.
(8) Pan fo P yn blentyn, a’i fod wedi ymadael â’r fangre y mae’n preswylio ynddi, neu’r tu allan iddi, a’i fod yng nghwmni unigolyn sy’n gyfrifol amdano—
(a) caiff person awdurdodedig gyfarwyddo’r unigolyn hwnnw i fynd â P i’r fangre y mae P yn preswylio ynddi, a
(b) rhaid i’r unigolyn hwnnw, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan berson awdurdodedig i P.
(9) Pan fo P yn blentyn, a bod gan berson awdurdodedig sail resymol dros gredu bod P yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8 yn fynych, caiff y person awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw unigolyn sy’n gyfrifol am P i sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n rhesymol ymarferol, bod P yn cydymffurfio â’r gofyniad.
(10) Caiff person awdurdodedig gymryd unrhyw gamau eraill y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn.
(11) Ni chaiff person awdurdodedig arfer pŵer a roddir i’r person awdurdodedig gan y rheoliad hwn oni fo’r person awdurdodedig yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau y cydymffurfir â gofyniad yn rheoliad 7 neu 8.
(12) At ddibenion y rheoliad hwn—
 ystyr “mangre benodedig” (“specified premises”) yw mangre a bennir o dan reoliad 7 neu fangre y bernir ei bod yn addas o dan reoliad 8;
 ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw—
(a) cwnstabl, neu
(b) at ddibenion paragraffau (2), (3) a (10) yn unig, swyddog mewnfudo.”
6 

(1) Mae Atodlen 3A (gwledydd a thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i fesurau ychwanegol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer y cofnodion ar gyfer “Gweriniaeth Mauritius” a “Portiwgal”.
(3) Yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 Ethiopia”“
 Oman”“
 Qatar”“
 Somalia”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 4.03 p.m. ar 19 Mawrth 2021