
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 3) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2 

(1) Mae Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (awdurdodau rhestredig) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) O dan y pennawd “Llywodraeth leol, tân a’r heddlu”, ar y diwedd mewnosoder—“Cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”mewn perthynas â holl swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021