
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2 

(1) Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, o dan y pennawd “LLYWODRAETH LEOL ETC”, yn y lle priodol mewnosoder—“
Cyd-bwyllgorau corfforedig (“Corporate joint committees”) Safonau cyflenwi gwasanaethau
 Safonau llunio polisi
 Safonau gweithredu
 Safonau hybu
 Safonau cadw cofnodion”
(3) Ym mharagraff 2 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Mawrth 2021