
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “Cynllun Digolledu Windrush” (“the Windrush Compensation Scheme”) yw—
(a) y cynllun o’r enw “the Windrush Compensation Scheme” a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion sydd wedi dioddef colled mewn cysylltiad â’r ffaith nad ydynt yn gallu dangos bod ganddynt statws cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; a
(b) y polisi o’r enw “Windrush Scheme: Support in urgent and exceptional circumstances” a weithredwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion yr oedd angen iddynt, am resymau brys ac am resymau eithriadol, gael cymorth cyn i’r cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn ddod yn weithredol;”.
4 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(1) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”;
(2) ym mharagraff 10 (ystyr “incwm”: pensiynwyr) yn is-baragraff 1(j) mewnosoder “(xx) credyd cynhwysol;”.
5 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£173.80” a “£187.80” rhodder “£177.10” ac “£191.15” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£265.20” a “£280.85” rhodder “£270.30” a “£286.05” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£265.20” a “£91.40” rhodder “£270.30” a “£93.20” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£280.85” a “£93.05” rhodder “£286.05” a “£94.90” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£26.60” rhodder “£26.67”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”.
6 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
7 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”.
8 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£79.20” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.60” ac yn lle “£62.75” rhodder “£63.05”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£79.20” rhodder “£79.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£124.45” rhodder “£125.05”;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£34.95” a “£49.80” rhodder “£35.10” a “£50.05” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” rhodder “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23 yn lle “£29.35” rhodder “£29.70”;
(ii) ym mharagraff 24 yn lle “£39.20” rhodder “£39.40”.
9 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 29(1), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b) ym mharagraff 29(7), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
10 
Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod—materion eraill), ym mharagraff 5(7)(a)(ii), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
11 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.
12 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “Cynllun Digolledu Windrush” (“the Windrush Compensation Scheme”) yw—
(a) y cynllun o’r enw “the Windrush Compensation Scheme” a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion sydd wedi dioddef colled mewn cysylltiad â’r ffaith nad ydynt yn gallu dangos bod ganddynt statws cyfreithlon yn y Deyrnas Unedig; a
(b) y polisi o’r enw “Windrush Scheme: Support in urgent and exceptional circumstances” a weithredwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddiben digolledu unigolion yr oedd angen iddynt, am resymau brys ac am resymau eithriadol, gael cymorth cyn i’r cynllun y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwn ddod yn weithredol;”.
13 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£14.65” rhodder “£15.35”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.85” rhodder “£5.10”;
(c) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£9.75” rhodder “£10.20”;
(d) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£12.25” rhodder “£12.85”.
14 
Ym mharagraff 36 (ystyr “incwm”: pensiynwyr) yn is-baragraff 1(j) mewnosoder “(xx) credyd cynhwysol;”.
15 
Ym mharagraff 111(7)(a)(ii), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
16 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£173.80” a “£187.80” rhodder “£177.10” ac “£191.15” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£265.20” a “£280.85” rhodder “£270.30” a “£286.05” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£265.20” a “£91.40” rhodder “£270.30” a “£93.20” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£280.85” a “£93.05” rhodder “£286.05” a “£94.90” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£26.60” rhodder “£26.67”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”.
17 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£79.20” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£79.60” ac yn lle “£62.75” rhodder “£63.05”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£79.20” rhodder “£79.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£124.45” rhodder “£125.05”;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£34.95” a “£49.80” rhodder “£35.10” a “£50.05” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£66.95” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£67.30” ac yn lle “£133.90” rhodder “£134.60”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£65.52” rhodder “£65.94”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£37.50” rhodder “£37.70”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£26.60”, “£17.10” a “£24.50” rhodder “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
(i) ym mharagraff 23 yn lle “£29.35” rhodder “£29.70”;
(ii) ym mharagraff 24 yn lle “£39.20” rhodder “£39.40”.
18 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
19 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 29(1), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”;
(b) ym mharagraff 29(8), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, Cynllun Digolledu Windrush”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
13 Ionawr 2021