
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir..
(3) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd sy’n digwydd yn 2021.
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yw etholiad cyffredinol arferol i fod yn Aelod o’r Senedd y bwriedir i’r pôl ar ei gyfer gael ei gynnal yn 2021;
 ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007.
2 
Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio yn unol â Rhannau 2 a 3.
RHAN 2
3 
Yn rheol 1(1) (amserlen ar gyfer cynnal trafodion mewn etholiad i’r Senedd) o Atodlen 5, yng ngholofn y tabl â’r pennawd “Time”, yn y cofnod sy’n cyfateb i’r cofnod “Delivery of nomination papers.”, ym mrawddeg gyntaf y golofn honno, ar ôl “notice of election but not later than” mewnosoder “4 in the afternoon on”.
RHAN 3
4 
Yn erthygl 2(1) (dehongli), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 “UK Parliamentary constituency” means a constituency specified in an Order in Council made under section 4 of the Parliamentary Constituencies Act 1986.”
5 

(1) Mae Atodlen 5 (Rheolau Etholiadau’r Senedd) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheol 4(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(3) Yn rheol 6(4B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
(4) Yn rheol 7(6B)(b)(i), ar ôl “state the” mewnosoder “Senedd Cymru or, if the candidate resides outside Wales, UK Parliamentary”.
6 
Yn Atodlen 10 (Atodiad ffurflenni), yn Rhan 2 o ffurflen CZ, ar ôl “etholaeth Senedd Cymru” mewnosoder “neu, os yw’r ymgeisydd yn preswylio y tu allan i Gymru, etholaeth Senedd y DU”.
Mark Drakeford
Prif Weinidog Cymru, un o Weinidogion Cymru
Am 4.13 p.m. ar 17 Mawrth 2021