
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 13 Mawrth 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;
(b) ystyr y “Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021;
(c) ystyr “Rheoliadau Rhif 3” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021.
RHAN 2
2 

(1) Mae rheoliad 14 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (troseddau) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1B), ar ôl “rheoliad” mewnosoder “4(1) neu (4), 5(2),”.
(3) Ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan reoliad 4 neu 5 os oes ganddo esgus rhesymol dros ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol.”
RHAN 3
3 

(1) Mae Atodlen 1A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (profion cyn cyrraedd Cymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2—
(a) yn is-baragraff (b), yn lle “geni’r” rhodder “geni neu oedran y”;
(b) yn lle is-baragraff (e) rhodder—“
(e) datganiad—
(i) bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu
(ii) o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,”;
(c) hepgorer is-baragraff (f).
RHAN 4
4 
Yn lle paragraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (personau esempt) rhodder—“
10. 

(1) Aelod o griw awyren pan fo wedi teithio i’r Deyrnas Unedig yng nghwrs ei waith neu y mae’n ofynnol iddo deithio i’r Deyrnas Unedig fel arall at ddibenion gwaith.
(2) At ddibenion y paragraff hwn—
(a) ystyr “aelod o griw awyren” yw person sydd—
(i) yn gweithredu fel peilot, llywiwr hedfan, peiriannydd hedfan neu weithredwr radioteleffoni hedfan yr awyren,
(ii) yn cael ei gludo ar y dec hedfan ac yn cael ei benodi gan weithredwr yr awyren i roi neu i oruchwylio’r hyfforddiant, y profiad, yr ymarfer a’r profion cyfnodol sy’n ofynnol ar gyfer y criw hedfan o dan erthygl 114(2) o Orchymyn Llywio Awyr 2016, neu
(iii) yn cael ei gludo ar yr hediad at ddiben cyflawni dyletswyddau sydd i’w haseinio gan y gweithredwr neu’r peilot sydd â rheolaeth o’r awyren er budd diogelwch teithwyr neu’r awyren;
(b) mae teithio at ddibenion gwaith yn cynnwys, yn benodol—
(i) pan fo’r aelod o griw awyren yn preswylio y tu allan i’r Deyrnas Unedig, teithio i’r Deyrnas Unedig i weithio ar awyren sy’n ymadael â’r Deyrnas Unedig,
(ii) teithio i fynychu hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith yn y Deyrnas Unedig,
(iii) dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn dilyn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith y tu allan i’r Deyrnas Unedig.”
RHAN 5
5 
Yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (digwyddiadau chwaraeon penodedig)—
(a) hepgorer y cofnodion a ganlyn—“
 Taith Snwcer y Byd – Shoot Out,”“
 British Judo – Cystadleuaeth Wahodd Gaeedig Hŷn Prydain,”“
 Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – Meistri Ladbrokes,”“
 Taith Snwcer y Byd – Meistri’r Almaen,”“
 Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth y Chwaraewyr,”“
 Taith Snwcer y Byd – Pencampwriaeth Agored Cymru,”“
 Rasio ceffylau – Betfair Ascot Chase Day,”“
 Digwyddiadau Tennis Cadair Olwyn Dan Do Bolton ITF,”“
 Cwpan y Byd Gymnasteg FIG,”“
 Rasio ceffylau – Grand National Trial Day,”“
 Matchroom – Sêr Gymnasteg,”“
 Matchroom – Meistri Ping Pong y Byd,”“
 Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol – yr Ysgol Gymhwyso,”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
 British Athletics – Treial Olympaidd Ras Gerdded 20 cilometr,
 British Wrestling – Twrnamaint Gwahodd y Cenhedloedd Cartref,
 Twrnamaint Tennis Cadair Olwyn Dan Do yr LTA Loughborough,
 Prolog a Rownd 1 Pencampwriaeth World Endurance yr FIA Silverstone,
 Cyfarfod Sbrint British Para Athletics,
 Motorsport UK – Penwythnos Rasio Hanesyddol y Meistri Pencampwriaeth Fformiwla 2 yr HSCC,
 Motorsport UK – Pencampwriaeth Superkart Prydain a’r Gyfres Gefnogi,
 Motorsport UK – Pencampwriaeth Rasio Tryciau Prydain,
 British Equestrian – Digwyddiadau Dressage Rhyngwladol,
 Cyfarfod Rhyngwladol British Para Swimming,
 Cage Warriors 121,
 Treialon Ceffylau Badminton,
 Cylchdaith Ewrop – Meistri Prydain Betfred,
 Motorsport UK – Cwpan Sbrint Her y Byd Ewrop GT a’r Gyfres Gefnogi,
 Motorsport UK – Gŵyl Hanesyddol Donington,
 Motorsport UK – Pencampwriaeth Ceir Teithio Prydain a’r Gyfres Gefnogi,
 Motorsport UK – Her Ferrari y DU a Chefnogaeth,
 Motorsport UK – Pencampwriaeth GT Prydain a’r Gyfres Gefnogi / Her Sbrint Porsche Prydain Fawr a’r Gyfres Gefnogi,
 Motorsport UK – Meistri Hanesyddol F1 / Sbortsceir a’r Gyfres Gefnogi,
 Motorsport UK – Prif Ddigwyddiad FIA 2021 a’r Gyfres Gefnogi,
 Pro League Hoci Lloegr,
 Pencampwriaeth y Byd Grand Prix Speedway yr FIM – Rownd Ragbrofol,
 Sioe Geffylau Royal Windsor,
 Sioe Geffylau Ryngwladol Bolesworth,
 Uwch-gynghrair, Pencampwriaeth a Chynghrair Ddatblygu Genedlaethol British Speedway,
 Pencampwriaeth Bêl-droed Ewropeaidd UEFA 2020.”
RHAN 6
6 

(1) Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6A(4)(d), yn lle “mharagraff 24” rhodder “mharagraff 14”.
(3) Yn rheoliad 6B(8)—
(a) ar ôl “mewnfudo” mewnosoder “neu gwnstabl”;
(b) ar ôl yr ail “swyddog” mewnosoder “neu’r cwnstabl”.
(4) Yn rheoliad 6H(4)(b)(ii), yn y testun Saesneg, ar ôl “before” hepgorer “than”.
(5) Yn rheoliad 10(8)—
(a) yn y diffiniad o “athletwr elît”, yn lle “mharagraff 31(2)(a)” rhodder “mharagraff 21(2)(a)”;
(b) yn y diffiniad o “cystadleuaeth elît”, yn lle “mharagraff 31(2)(b)” rhodder “mharagraff 21(2)(b)”.
(6) Yn rheoliad 16(1)(a)(i) (hysbysiadau cosb benodedig)—
(a) yn lle “neu” o flaen “7(5)” rhodder “,”, a
(b) ar ôl “7(5)” mewnosoder “neu 12E”.
RHAN 7
7 
Ym mharagraff 5(2) o Atodlen 5 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (eithriadau sectorol), yn y testun Cymraeg—
(a) yn lle “(d)” rhodder “(c)”;
(b) yn lle “(e)” rhodder “(d)”.
RHAN 8
8 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Rhif 3 (diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol), yn lle “2 i 12” rhodder “2 i 20”.
RHAN 9
9 
Yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr (dehongli), yn y diffiniad o “hysbysiad gofynnol”, yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—“
(e) datganiad—
(i) bod y prawf yn brawf adwaith cadwynol polymerasau, neu
(ii) o enw’r ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y prawf,
(f) enw darparwr y prawf;”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 12.02 p.m. ar 12 Mawrth 2021