
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cydraddoldeb 2010 (Cychwyn Rhif 15) (Cymru) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Cydraddoldeb 2010.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ran 1 o’r Ddeddf (anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol) i rym ar 31 Mawrth 2021—
(a) adran 1 (y ddyletswydd sector cyhoeddus ynghylch anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol), i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdod perthnasol fel y diffinnir “relevant authority” gan adran 2(6) o’r Ddeddf;
(b) adran 3 (gorfodi), at ddibenion adran 1 i’r graddau y mae’n gymwys i awdurdod perthnasol fel y diffinnir “relevant authority” gan adran 2(6) o’r Ddeddf.
Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, o dan awdurdod Gweinidogion Cymru
11 Mawrth 2021