
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 12 Ebrill 2021.
2 
Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”;
(b) yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£32” rhodder “£33”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2021