
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.
2 

(1) Mae Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 14 rhodder—“
14. 
At ddibenion adran 26(1) o’r Mesur, yr amodau rhagnodedig yw—
(a) bod yr aelod yn fabwysiadydd i’r plentyn;
(b) bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd am—
(i) y dyddiad y mae’r aelod yn bwriadu i absenoldeb y mabwysiadydd ddechrau; a
(ii) hyd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd y mae’r aelod yn bwriadu ei gymryd, os yw’n llai na 26 o wythnosau;
(c) pan fo’r aelod yn dymuno amrywio dechrau’r absenoldeb mabwysiadydd sydd wedi ei bennu o dan baragraff (b)(i), bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r dyddiad dechrau newydd o leiaf un wythnos cyn y dyddiad a bennir o dan baragraff (b)(i), neu o leiaf un wythnos cyn y dyddiad newydd, pa un bynnag sydd gynharaf, neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; a
(d) pan fo’r aelod yn dymuno amrywio hyd yr absenoldeb mabwysiadydd, bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r pennaeth gwasanaethau democrataidd o’r hyd newydd o leiaf un wythnos cyn diwedd y cyfnod o absenoldeb a ddisgwylir yn unol â’r hyd a bennwyd o dan baragraff (b)(ii), neu o leiaf un wythnos cyn diwedd arfaethedig newydd y cyfnod o absenoldeb, pa un bynnag sydd gynharaf, neu os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.”
(3) Yn lle rheoliad 15 rhodder—“
15. 

(1) Y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yw 26 o wythnosau, oni bai bod yr aelod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 14(b)(ii), (d) neu 17A y bydd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn llai na 26 o wythnosau.
(2) Pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod fel rhan o’r un trefniant, nid oes gan yr aelod yr hawl i absenoldeb mabwysiadydd ond mewn perthynas â’r plentyn cyntaf a leolir gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu.”
(4) Yn lle rheoliad 16 rhodder—“
16. 
Ni chaniateir cymryd absenoldeb mabwysiadydd ond fel ei fod yn dechrau naill ai—
(a) ar y diwrnod y mae’r plentyn yn cael ei leoli gyda’r aelod ar gyfer ei fabwysiadu; neu
(b) ar unrhyw un o’r 14 o ddiwrnodau cyn y diwrnod hwnnw.”
(5) Yn lle rheoliad 17 rhodder—“
17. 
Yn ddarostyngedig i reoliad 16, caiff aelod ddewis ar ba ddyddiad y mae ei absenoldeb mabwysiadydd i ddechrau.”
(6) Ar ôl rheoliad 17 mewnosoder—“
17A. 
Caiff aelod derfynu cyfnod o absenoldeb mabwysiadydd yn gynharach na diwedd y cyfnod a nodwyd yn rheoliad 15, a hysbyswyd o dan reoliad 14(b)(ii) neu a amrywiwyd o dan reoliad 14(d) drwy hysbysu’r pennaeth gwasanaethau democrataidd yn ysgrifenedig o’i fwriad i wneud hynny o leiaf 7 niwrnod cyn iddo ddychwelyd.”
(7) Yn rheoliad 38(1), ar ôl “absenoldeb mamolaeth” mewnosoder “, absenoldeb mabwysiadydd”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021