
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
(a) adran 28;
(b) adran 30(3);
(c) adran 35;
(d) adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(e) adran 46(3), (4) ac (8) i (10);
(f) adran 47(8);
(g) adran 59;
(h) adran 161(1).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
(a) adran 163;
(b) adran 164.
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Tachwedd 2021—
(a) adrannau 24 i 27;
(b) adran 29;
(c) Rhan 1 o Atodlen 3.
5 
Daw adran 52 o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
6 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—
(a) adran 30 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adrannau 31 i 34;
(c) adrannau 36 a 37;
(d) Pennod 2 o Ran 3;
(e) adran 45;
(f) adran 46 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g) adran 48;
(h) adran 54;
(i) adran 56;
(j) adran 57;
(k) adran 58;
(l) adran 62;
(m) adran 63;
(n) adrannau 65 a 66;
(o) adran 67;
(p) adran 161 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(q) adran 162;
(r) Rhan 2 o Atodlen 3;
(s) Atodlen 5;
(t) Atodlen 6, ac eithrio paragraff 6(5);
(u) Atodlen 7;
(v) Atodlen 13.
7 
Er bod erthygl 6 yn dod â Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym, mae adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o Ddeddf 2000, hyd nes y bo—
(a) y peth hwnnw wedi ei gwblhau; neu
(b) y cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Mawrth 2021